Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Credyd Cynhwysol

Os ydych chi heb waith neu rydych chi’n derbyn incwm isel, efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol i ychwanegu at yr arian rydych eisoes yn ei ennill.


Beth yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sydd yn dibynnu ar brawf modd. Mae wedi ei gyflwyno'n genedlaethol ers Rhagfyr 2018. Yn y pen draw, bydd yn disodli'r buddion 'etifeddiaeth' a restrir isod drwy symud y bobl sydd eisoes yn ei hawlio, fel eu bod yn derbyn credyd cynhwysol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Cymorth Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

O ydych yn derbyn y budd-daliadau hyn ar hyn o bryd, byddwch yn parhau i dderbyn taliadau fel arfer am y tro. Bydd eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol neu Gredydau Treth yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd eich budd-dal yn cael ei newid i Gredyd Cynhwysol.


Ydw i'n gymwys ar gyfer derbyn Credyd Cynhwysol?

I hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid i chi:

  • fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • dderbyn incwm isel
  • Fod ag arbedion yn is na £16,000
  • dderbyn 'Ymrwymiad Hawlydd'.

Ni allwch dderbyn Credyd Cynhwysol os ydych eisoes yn derbyn budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm. Os ydych chi'n hawlio'r budd-daliadau hyn, byddwch yn cael eich symud i'r system Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Os ydych chi’n un o bâr o oedran cymysg, sy'n golygu bod un person yn uwch nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod y llall yn is, bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn hytrach na Chredyd Pensiwn. Os ydych chi’n un o bâr o oedran cymysg ac eisoes yn derbyn Credyd Pensiwn, gallwch barhau i wneud hynny cyhyd ag y bydd gennych hawl i'w dderbyn.

Os nad ydych yn siŵr pryd fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ar wefan GOV.UK.


Sut ydw i'n hawlio Credyd Cynhwysol?

Llenwch y ffurflen hawlio ar-lein ar GOV.UK

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cyfweliad wyneb yn wyneb yn digwydd wedi i chi gwblhau cais. Bydd y cyfweliad gyda hyfforddwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol.

Yn ystod eich cyfweliad, bydd yn rhaid i chi gytuno i rai amodau, o'r enw 'Ymrwymiad Hawlydd'. Mae hyn yn nodi'r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud er mwyn derbyn Credyd Cynhwysol. Yn aml mae'n cynnwys gwneud cynllun ar gyfer chwilio am swydd. Bydd hyn yn eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith neu ennill mwy o incwm.

Bydd yr amodau hyn yn dibynnu ar eich iechyd, eich cyfrifoldebau, a'ch amgylchiadau. Os nad ydych yn cytuno i'r amodau, efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei leihau neu ei stopio.

Angen help?

Os byddwch angen help i lenwi'r ffurflen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644 (neu ar gyfer ffôn testun cysylltwch â 0800 328 1344).

Mae mwy o fanylion ar ein taflen ffeithiau a'n canllaw gwybodaeth (mae'r taflenni ffeithiau'n cynnwys mwy o wybodaeth fanwl):

Taflenni Ffeithiau 92: Credyd Cynhwysol

Canllaw gwybodaeth 58: Credyd Cynhwysol

Pa arian ychwanegol sydd gennych hawl to?

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98

 

Last updated: Ion 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top