Dylai apwyntiadau ar gyfer eich brechiad ffliw am ddim fod ar gael nawr, dylai eich meddygfa fod wedi cysylltu â chi eisoes a gofyn i chi wneud apwyntiad ar gyfer eich brechiad ffliw am ddim. Gallwch gysylltu â'ch meddygfa i ofyn am apwyntiadau sydd ar gael.
Mae Lles drwy Wres yn ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd dan arweiniad Age Cymru, i dynnu sylw at y buddion iechyd pwysig wrth i chi ddiogelu eich hun a chadw eich cartref yn gynnes.
Gallai ychydig o newidiadau syml i'ch cartref neu ychydig o help ychwanegol leddfu'r broblem os ydych chi'n poeni mwy am arian yr adeg hon o'r flwyddyn.