Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Beth yw Lles drwy Wres?

Lles drwy Wres yw ymgyrch genedlaethol Age Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r effeithiau negyddol y gall tywydd oer a thymheredd isel gael ar bobl hŷn.

Mae newidiadau i'n cyrff wrth i ni fynd yn hŷn yn golygu bod tywydd oer a heintiau’r gaeaf yn effeithio arnom yn waeth nag yr oeddent pan oeddwn yn iau. Y gaeaf hwn rydym yn parhau i fyw ochr yn ochr â'r coronafeirws a'i amrywiolion sy'n parhau i newid, ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud er mwyn cadw'n ddiogel ac yn iach.

Beth allwch chi ei wneud

Wrth i ni heneiddio, mae ein system imiwnedd yn wannach ac yn llai effeithiol wrth ymladd firysau. Rydyn ni'n colli màs cyhyrau sy'n helpu i'n cadw'n gynnes a'n cadw ni i symud o gwmpas. Mae'r oerfel yn gwneud cyflyrau iechyd yn anoddach i'w rheoli, a gallant hyd yn oed effeithio ar ein calonnau a'n cylchrediad.

Y newyddion da yw bod llawer o bethau y gallwn eu gwneud er mwyn cadw’n iach dros y gaeaf.

Cadw i symud

Ceisiwch beidio eistedd yn llonydd am fwy nag awr ar y tro. Gosodwch nodau bach i'ch hun i godi a symud bob awr. Gall tamed bach o ymarfer corff eich helpu i gadw'n gynnes, yn ddiogel ac yn iach. Mae symud o gwmpas yn cynhyrchu gwres, yn cryfhau esgyrn a chyhyrau ac yn ein cadw ni i symud.

Haws dweud na gwneud. Mae'n bosib iawn nad ydych chi'n teimlo mor ffit ag y gwnaethoch chi cyn i'r pandemig coronafeirws ddechrau - os felly, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer ohonom yn yr un cwch.

Dysgwch fwy am ein rhaglenni gweithgarwch corfforol, fel Tai Chi a LIFT (Ymarfer Gweithredol Effaith Isel)

Bwyta'n iach

Mae treulio mwy o amser dan do a gwneud llai o'r pethau rydyn ni'n eu mwynhau yn golygu y gall fod yn anodd paratoi prydau bwyd. Mae’n fwy tebygol, felly, y byddwn yn troi at fyrbrydau. Ceisiwch roi trefn ar eich bwyd. Mae ein chwant bwyd yn amrywio o ddydd i ddydd. Anelwch at dri phryd bwyd y dydd, brecwast, cinio a swper gyda digon o ddiodydd cynnes ac ychydig bach o rywbeth blasus.

Ydych chi erioed wedi sylwi, pan fyddwch chi'n llwglyd rydych chi'n teimlo'n oer? Mae hynny oherwydd ein bod ni'n cael egni o fwyd sy'n cael ei ddefnyddio gan ein cyrff i helpu i'n cadw'n gynnes. Cadwch gyflenwad da o'ch hoff fwydydd tun a sych fel cawl, llysiau, ffrwythau, pasta a phwdin reis, rhag ofn na fyddwch chi’n medru mynd allan i siopa - oherwydd salwch neu dywydd gwael.

Brechiadau’r gaeaf – hyd yn oed os ydych chi cyn iached â'r gneuen

Y gaeaf hwn, disgwylir i firysau anadlol fod yn fwy cyffredin, oherwydd rydyn ni’n llai cyfarwydd â nhw wedi’r cyfnod clo yn ystod gaeafau blaenorol. Felly mae'n arbennig o bwysig eich bod chi’n cael eich brechiadau eleni. Brechu yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym ar hyn o bryd yn erbyn y ffliw a covid.

Os ydych yn gymwys, dylai eich meddygfa fod eisoes wedi cysylltu â chi a'ch gwahodd i wneud apwyntiad ar gyfer eich brechiad ffliw am ddim. Fodd bynnag, eleni ni fydd pobl 50–64 oed iach yn cael eu cynnwys yn rhaglen frechu am ddim y GIG, ond gallwch ofyn i'ch fferyllydd lleol am frechlyn â thâl o hyd. Mae brechlynnau hefyd ar gael ar gyfer niwmococol ac eryr i rai pobl.

Cadwch eich cartref yn gynnes ac yn ddiogel

Cysylltwch â pheiriannydd gwresogi cofrestredig i wasanaethu'ch system wresogi cyn dechrau'r gaeaf. Mae hefyd yn syniad da cysylltu â glanhawr simnai i wirio bod eich fentiau a’ch simneiau yn lân ac yn glir o falurion er mwyn caniatáu i fwg a nwyon gwenwynig ddianc. Gwiriwch fod synwyryddion mwg wedi'u lleoli'n gywir ac yn gweithio, er mwyn iddynt fedru rhoi rhybudd cynnar i chi os bydd tân yn dechrau yn eich cartref.

Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau cyfleustodau yn cynnal Cofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth i gwsmeriaid sy'n agored i niwed er mwyn darparu rhybuddion cynnar o broblemau gyda’r gwasanaethau ac i ddarparu cyngor arbenigol. Felly, gofynnwch i'ch cyflenwr sut i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth sy’n rhad ac am ddim.

Atal lledaeniad germau

Yn ogystal â chael ein brechu, mae rhai mesurau syml eraill y gallwn eu cymryd i leihau lledaeniad salwch - sy'n arbennig o bwysig eleni.

Golchi ein dwylo'n rheolaidd gyda sebon a dŵr yw un o'r ffyrdd gorau o atal germau rhag lledaenu. Mae hefyd yn syniad da cadw rhywfaint o ddiheintydd alcohol gel ar gyfer eich dwylo gyda chi pan fyddwch chi’n mynd allan.

Gallwch chi hefyd:

  • ddal peswch a thisian mewn hances bapur neu ym mhlyg eich braich
  • gadewch ffenestri’n gilagored er mwyn gadael i awyr iach gylchredeg yn ystod y dydd neu pan rydych chi’n cwrdd â phobl dan do
  • osgoi cysylltiad agos â phobl sy'n sâl.

Cadw’n gynnes

Gall gwisgo’n addas ar gyfer y tywydd fod yn anodd. Gwisgo haenau yw'r ffordd orau o gadw'n gynnes yn y gaeaf. Os ydych chi'n mynd allan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhai haenau ychwanegol, het, sgarff, menig, cot sy’n dal dŵr, hyd yn oed os nad oes eu hangen arnoch ar unwaith – gall y tymheredd ostwng yn sylweddol pan fydd yr haul yn machlud.

Mae'n syniad da i gadw digon o feddyginiaethau ar gyfer anwyd a gwddf tost hefyd. Gall eich fferyllydd roi cyngor i chi ar yr hyn a allai helpu os ydych chi'n teimlo’n anhwylus.


Gall yr oerfel gynyddu'r risg o drawiad ar y galon neu strôc, yn ogystal â hypothermia. Os ydych chi'n amau eich bod chi, neu rywun arall, yn profi unrhyw un o'r rhain, ffoniwch 999 ar unwaith, neu 112 o ffôn symudol.

Pan fydd rhywun yn cael strôc, cofiwch y cam nesa.

Nam ar yr wyneb. A yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu?

Estyn. Ydyn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno?

Siarad. Ydyn nhw’n cael trafferth siarad?

Amser. Mae ymateb yn amserol yn hollbwysig. Ffoniwch 999 os ydych chi’n gweld un o’r symptomau uchod.

Nod ein hymgyrch Lles drwy Wres yw helpu pobl hŷn i ddiogelu eu hiechyd a byw'n fwy cyfforddus a diogel yn eich cartref yn ystod y gaeaf, ac i gadw mewn cysylltiad ag eraill a bod yn rhan o'r hyn sy'n digwydd yn eu cymuned.

Gan weithio gyda'n partneriaid Age Cymru lleol ledled Cymru, rydym yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyngor cyfrinachol a gwasanaethau ymarferol fel ymweliadau â’r cartref a thorri ewinedd eich traed. Cysylltwch â'n llinell Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 i gael gwybod pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Sut y gallwch chi fod yn rhan o Les drwy Wres

Gyda'n gilydd, gallwn helpu pobl i deimlo'n gynnes, yn ddiogel ac yn iach y gaeaf hwn.

Gallwch gymryd rhan a chreu Lles drwy Wres mewn sawl ffordd wahanol.

Rhodd - bydd eich rhodd yn helpu i newid bywydau.
Rhannwch ein Canllaw’r Gaeaf - bydd fersiwn newydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir.

 

Last updated: Tach 01 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top