Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cofrestrwch ar Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth

Gallwch gofrestru ar Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth er mwyn cael cymorth ychwanegol gan eich cwmni ynni neu ddŵr.

Rydych yn gymwys os ydych:

  • wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • yn anabl neu â chyflwr meddygol hirdymor
  • rydych yn gwella ar ôl cael eich anafu
  • mae gennych nam ar eich clyw neu'ch golwg
  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl
  • yn feichiog neu os oes gennych blant o dan bump oed
  • mae gennych anghenion cyfathrebu ychwanegol, er enghraifft dydych chi ddim yn medru siarad neu ddarllen Saesneg yn dda.

Efallai y byddwch yn dal i fedru cofrestru am resymau eraill os nad yw eich sefyllfa benodol chi ar y rhestr. Er enghraifft, os oes angen cymorth tymor byr arnoch ar ôl arhosiad yn yr ysbyty.

Mae bod ar y gofrestr yn eich galluogi chi i fynychu:

  • gwybodaeth mewn fformat hygyrch
  • rhybudd am doriadau pŵer sydd wedi cael eu cynllunio neu broblemau gyda’ch cyflenwad o ddŵr
  • cynlluniau adnabod lle mae staff y cwmni’n rhoi cyfrinair i chi er mwyn eich bod chi’n gwybod ei fod yn alwad dilys
  • cynlluniau enwebu lle maent yn anfon eich biliau at aelod o'r teulu neu ofalwr o'ch dewis
  • Cefnogaeth flaenoriaeth mewn argyfwng
  • Help gyda darlleniadau mesurydd.

Os oes gennych chi gwmnïau gwahanol ar gyfer dŵr, trydan a nwy, bydd angen i chi gofrestru gyda phob un. Os oes gennych chi ofalwr, gallant gofrestru ar eich rhan. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaethau i gyd, neu ar gyfer rhai o'r gwasanaethau’n unig.

Y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth (Ofgem)
Fideo am Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth (YouTube)

Beth i’w wneud os oes rhywun arall yn gyfrifol am y biliau

Gallwch chi gofrestru ar y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth os yw eich biliau:

  • yn enw rhywun arall, fel eich landlord
  • yn cael eu cynnwys fel rhan o’ch rhent, er enghraifft drwy gymdeithas dai.

Cwmnïau ynni

Mae gan bob cwmni ei Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ei hun. Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt ar eich bil a chofrestru dros y ffôn.

Gallwch gofrestru ar-lein os ydych yn gwsmer gyda:

Os ydych chi’n defnyddio cwmni gwahanol i gael eich nwy a thrydan, mae angen i chi gysylltu â'r ddau.

Os byddwch yn newid eich cwmni, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth eto gyda'ch cwmni newydd.

Os ydych yn symud tŷ ond yn aros gyda'r un cwmni, byddwch yn aros ar y gofrestr.

Dosbarthwyr rhwydwaith trydan

Mae dosbarthwyr rhwydwaith trydan yn gyfrifol am ddarparu trydan i gartrefi a busnesau lle rydych chi'n byw.

Mae gan bob dosbarthwr ei gofrestr ei hun, felly mae angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu drwy anfon e-bost, yn dibynnu ar y dosbarthwr.

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i'ch dosbarthwr trydan (Rhwydweithiau Ynni)

De Cymru

National Grid

0800 096 30 80

Gogledd Cymru, Glannau Mersi, Swydd Gaer a Gogledd Swydd Amwythig

SP Energy Networks
0330 101 0167

Dosbarthwyr rhwydwaith nwy

Mae dosbarthwyr rhwydwaith nwy yn gyfrifol am ddarparu nwy i gartrefi a busnesau lle rydych chi'n byw.

Mae gan bob dosbarthwr ei gofrestr ei hun, felly mae angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu drwy anfon e-bost, yn dibynnu ar y dosbarthwr.

Pwy yw fy nghyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith? (Cymdeithas Rhwydweithiau Ynni)

Cymru a'r Gorllewin

Wales and West Utilities
0800 072 62 02

Cyflenwyr dŵr

Mae gan bob cyflenwr ei gofrestr ei hun, felly mae angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu drwy anfon e-bost, yn dibynnu ar y cyflenwr.

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i'ch cyflenwr dŵr (Water UK)

Hafren Dyfrdwy

Dŵr Cymru/Welsh Water

 

 

Last updated: Hyd 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top