Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Caethwasiaeth fodern

Mae caethwasiaeth fodern yn cwmpasu caethwasiaeth, masnachu pobl, llafur gorfodol a chaethiwed domestig. Mae masnachwyr a meistri caethweision yn defnyddio pa bynnag fodd sydd ganddynt er mwyn twyllo a gorfodi unigolion i fyw bywyd yn llawn camdriniaeth, caethiwed a thriniaeth annynol.

Dangosyddion posibl o gaethwasiaeth

  • Gall dioddefwyr ddangos arwyddion o gam-drin corfforol neu seicolegol, edrych fel eu bod yn dioddef o ddiffyg maeth neu maent yn anniben, neu ymddangos yn dawedog
  • Anaml y caniateir i ddioddefwyr deithio ar eu pennau eu hunain, maent yn ymddangos fel eu bod o dan reolaeth neu ddylanwad pobl eraill, anaml y byddant yn rhyngweithio neu maent yn ymddangos yn anghyfarwydd â'u cymdogaeth neu ble maent yn gweithio
  • Gall dioddefwyr fod yn byw mewn llety budr, cyfyng neu orlawn, a / neu'n byw ac yn gweithio yn yr un cyfeiriad
  • Efallai na fydd gan ddioddefwyr ddogfennau adnabod, ychydig iawn o eiddo personol ac maent bob amser yn gwisgo'r un dillad o ddydd i ddydd. Efallai na fydd y dillad maen nhw'n eu gwisgo yn addas ar gyfer eu gwaith
  • Efallai na fydd gan ddioddefwyr fawr o gyfle i symud yn rhydd ac efallai bod eu dogfennau teithio yn cael eu cadw rhagddynt, e.e. Pasbortau
  • Gall dioddefwyr gael eu gollwng neu eu casglu ar gyfer mynd i’r gwaith yn rheolaidd naill ai'n gynnar iawn neu'n hwyr yn y nos
  • Gall dioddefwyr osgoi cyswllt llygaid, ymddangos yn ofnus neu'n betrusgar wrth siarad â dieithriaid ac ofni gorfodwyr cyfraith am lawer o resymau, megis dydyn nhw ddim yn gwybod pwy i ymddiried ynddo neu ble i gael help, ofn allgludiad, ofn trais yn eu herbyn nhw neu eu teulu.

 

Last updated: Maw 08 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top