Mae'r Prosiect Cymorth Cymunedol yn brosiect partneriaeth rhwng Age Cymru, ein partneriaid Age Cymru lleol a phartneriaid eraill yn y trydydd sector ledled Cymru gyfan.
Nod y prosiect yw magu hyder a datblygu gwytnwch ymhlith pobl hŷn er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles. Wrth i bobl hŷn wella eu hyder a’u gwytnwch, maen nhw’n medru cymryd rhan yn y gymdeithas a’r gymuned yn haws. Yn ei dro, mae hyn yn helpu pobl i fynychu gwasanaethau lleol a chymryd rhan mewn cymunedau lleol.
Mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth i bobl hŷn gan eu helpu i gymryd rhan a chysylltu gyda’u cymunedau lleol gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr hyfforddedig.
Mae’r prosiect yn darparu dau wasanaeth: Mae Cynorthwyo a Chysylltu’n wasanaeth sy’n darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb yn y gymuned, ac mae Gwrando a Chysylltu’n wasanaeth gwrando dros y ffôn.
Mae’r ddau wasanaeth yn darparu cyfeillgarwch, cyfleoedd i sgwrsio, a chefnogaeth, gan helpu pobl i ymdopi ag unigrwydd, ynysigrwydd a phryder.
Os hoffech chi mwy o wybodaeth am y Prosiect Cynorthwyo Cymunedol, siaradwch â’r tîm drwy ffonio 07425 422270 neu e-bostiwch CAPenquiries@agecymru.org.uk