Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Eiriolaeth

Delwedd ar gyfer eiriolaeth

HOPE - Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu

Mae HOPE yn brosiect partneriaeth rhwng Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Wales ledled Cymru. Bydd HOPE yn darparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn (50+) a gofalwyr ledled Cymru.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tan ddiwedd mis Mawrth 2025.

Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth

Ariannwyd Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth gan Lywodraeth Cymru am bedair blynedd i redeg ochr yn ochr â chefnogi gweithredu Rhan 10 (Eiriolaeth) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Eiriolaeth Dementia

Mae'r Prosiect Eiriolaeth Dementia yn darparu cymorth eiriolaeth annibynnol, broffesiynol i bobl hŷn (50+) sydd â dementia a gofalwyr ledled Cymru.

Caiff Eiriolaeth Dementia ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd mis Mawrth 2024.


  • Arolwg eiriolaeth Cymru

    Mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal, wedi gweld eu hawliau dynol yn cael eu torri a'u mynediad at eiriolaeth, iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i atal yn ystod y pandemig. Mae hyn yn ôl dau arolwg gan eiriolwyr proffesiynol wedi'u lleoli yng Nghymru.
  • Pwysigrwydd Eiriolaeth

    Mae gwasanaethau eiriolaeth arbenigol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn diflannu yn ôl ein hadroddiadau Pwysigrwydd Eiriolaeth. Cynhelir y rhain bob yn ail flwyddyn.
  • Rhwydwaith eiriolaeth

    Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Oedolion yng Nghymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gwasanaeth eirioli o ansawdd i bobl yng Nghymru.
  • Cylchlythyr eiriolaeth

    Mae ein cylchlythyrau eiriolaeth yn darparu gwybodaeth, diweddariadau ac arfer da i chi am eiriolaeth.
  • Gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru

    Rhagor o wybodaeth am wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Logo HOPE

Logo QPM

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top