Gwanwyn
Gŵyl Gwanwyn 2024 : Dathlu 'newid'. Newidiadau o bob math, a sut mae newid yn ein hysbrydoli ni i fod yn greadigol wrth i ni heneiddio.
Mae Gwanwyn yn ŵyl genedlaethol sy'n digwydd drwy gydol mis Mai bob blwyddyn, a'i nod yw arddangos creadigedd pobl hŷn. Ers 2007, mae Gwanwyn wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob math er mwyn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn cynnwys comedi, gwnïo, Bollywood a chlybiau llyfrau.
Mae Gŵyl Gwanwyn yn gyfle i bobl hŷn fod yn greadigol fel ymarferwyr, trefnwyr, neu aelodau o gynulleidfa. Mae Gŵyl Gwanwyn yn helpu pobl hŷn i ddeall sut allant elwa drwy fod yn greadigol yn gorfforol ac yn feddyliol.
Y thema ym mis Mai 2024 yw 'newid'. Mae pobl hŷn sy'n sbarduno newidiadau diwylliannol yn ein hysbrydoli, a hoffwn wybod beth mae newid yn ei olygu i chi.
Bydd yna gyfleoedd drwy gydol mis Mai i chi gymryd rhan yng ngweithgareddau'r ŵyl, rhoi tro ar rywbeth newydd ac arddangos eich creadigedd.
Rhan o nod Gŵyl Gwanwyn yw herio stereoteipiau heneiddio a phobl hŷn a byddwn yn arddangos gweithgareddau, digwyddiadau, artistiaid a grwpiau sy'n cynrychioli'r amrywiaeth o brofiadau sydd gan bobl hŷn ledled Cymru.
Os hoffech chi lanlwytho digwyddiad i'n calendr o Ddigwyddiadau'r Ŵyl, llenwch ein ffurflen ar lein.
I gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl Gwanwyn, ac i ddarganfod sut allwch chi fod yn rhan o’r Ŵyl, ymunwch â’r rhestr bostio drwy e-bostio gwanwyn@agecymru.org.uk