Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Arolwg Blynyddol

Woman surrounded by her daughter and family

Beth sy’n bwysig i chi?

Eleni, byddwn ni’n cyhoeddi ein pumed arolwg blynyddol er mwyn deall barn a phrofiadau cyfredol pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru.

Mae mwy na 5,000 o bobl wedi ymateb i’r ymchwil hwn ers cyhoeddwyd yr arolwg cyntaf yn 2020.  Mae’r wybodaeth rydyn ni wedi ei gasglu wedi darparu cipolwg hanfodol am yr hyn sy’n bwysig i bobl hŷn, wedi dylanwadu a darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru, ac wedi siapio polisi ac ymgyrchu drwy’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn yr arolwg.

Iechyd a chyflogaeth, trafnidiaeth a chyfathrebu, cyllid a gofal cymdeithasol, rydyn ni eisiau clywed wrthych chi am bopeth.

Sut i gwblhau ein harolwg

Neu lawrlwythwch gopi a’i ddychwelyd at policy@agecymru.org.uk neu drwy ein cyfeiriad rhadbost: Age Cymru, FREEPOST RTZG-RYJJ, Y Llawr Gwaelod, Tŷ’r Mariners, Age Cymru, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD

Lawrlwytho - Beth sydd yn bwysig i chi - Profiadau cyfredol pobl dros 50 oed yng Nghymru

Neu ffoniwch 029 2043 1555 i gael copi papur o’r arolwg a’i ddychwelyd at policy@agecymru.org.uk neu drwy ein cyfeiriad rhadbost: Age Cymru, FREEPOST RTZG-JHGG-RYJJ, Y Llawr Gwaelod, Tŷ’r Mariners, Age Cymru, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD

Bydd angen i chi gwblhau’r arolwg erbyn dydd Gwener 12 Ebrill 2024.

Rydyn ni bob amser yn chwilio am bobl 50 oed neu’n hŷn ledled Cymru sy’n fodlon rhannu eu stori a’n cefnogi ni i godi ymwybyddiaeth am faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn yn y cyhoedd, gyda gwleidyddwyr, a nifer o rhanddeiliaid eraill.  Hoffech chi rannu eich stori?

Cysylltwch â Michael Phillips i gael sgwrs anffurfiol ar 07794366 224, 029 2043 1555 neu e-bostiwch Michael.phillips@agecymru.org.uk

Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am yr ymchwil hwn, cysylltwch â policy@agecymru.org.uk

Ariannwyd y gwaith ymchwil hwn gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiadau blaenorol

Beth sy’n bwysig i chi - Profiadau cyfredol pobl 50 oed neu hŷn yng Nghymru Hydref 2023

Profiadau presennol pandemig Covid-19 pobl 50 oed a throsodd yng
Nghymru, a safbwyntiau ar y flwyddyn i ddod - Mehefin 2022

Profiadau pobl 50 oed neu hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo COVID-19 dros y gaeaf, a’r daith i adfer Canlyniadau’r Arolwg Mai 2021

Profiadau pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo cyntaf Covid 19, a’u hadferiad - Hydref 2020

 

Last updated: Ebr 02 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top