Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn 31 Ionawr 2023, 12pm tan 1:30pm

imageb5l28.png

Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn

Digwyddiad wyneb yn wyneb - Neuadd, y Senedd, Bae Caerdydd

31 Ionawr 2023, 12pm tan 1:30pm

Hoffai Age Cymru eich gwahodd i’n digwyddiad wyneb yn wyneb ‘Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn’ sy’n cael ei gynnal yn y Neuadd, adeiladau’r Senedd, Bae Caerdydd ar 31 Ionawr 2023 rhwng 12pm a 1:30pm. 

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei noddi’n garedig gan Mike Hedges AS, yn archwilio sut mae cyflogwyr yng Nghymru yn creu gweithleoedd lle mae gweithwyr hŷn yn ffynnu, a’r buddion y gall gweithlu oedran cymysg eu cynnig i sefydliadau. Bydd hefyd yn archwilio rhai o’r rhwystrau y gall pobl hŷn eu hwynebu wrth ddod o hyd i gyflogaeth ac aros mewn cyflogaeth.

Bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS yn trafod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran cyflogaeth a phobl hŷn, a bydd yna gyflwyniadau gan yr Athro John Williams, Cadeirydd Age Cymru, Dr Martin Hyde, Darlithydd Cyswllt mewn Gerentoleg ym Mhrifysgol Abertawe, Sue Husband OBE, Cyfarwyddwr, Business in the Community (Cymru), Legal & General sy’n gyflogwr cynhwysol o ran oed, a fydd yn trafod sut maent yn gweithredu, ac un o weithwyr hŷn Legal & General a fydd yn trafod y budd y maent wedi’i gael o weithio i gwmni oed gyfeillgar.

Yn ogystal â’r cyflwyniadau bydd yna gyfle i rwydweithio a gweld stondinau gwybodaeth sy’n berthnasol i’r gweithlu hŷn.  Bydd lluniaeth ysgafn hefyd ar gael i’n gwestai.

Gobeithiwn y byddwch yn gallu derbyn ein gwahoddiad. Os hoffech ddod i’r digwyddiad, cofrestrwch yma https://s7gpjr2tayc.typeform.com/to/SNGU99JE neu ffoniwch 029 2043 1555.

Mae'r lleoedd yn gyfyngedig ac ar sail y cyntaf i'r felin.

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top