Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Dod yn Eiriolwr Gwirfoddol Annibynnol

Mae ein gwasanaeth eiriolaeth annibynnol angen eich help i gefnogi pobl hŷn (50+) a gofalwyr yn eich cymuned.

Cofrestru i fod yn Eiriolwr Gwirfoddol Annibynnol

Bydd HOPE yn galluogi pobl hŷn a gofalwyr i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, cymryd rhan yn eu cymunedau, deall eu hawliau fel person hŷn, cael mynediad at wybodaeth i wneud dewisiadau gwybodus, a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Rydym yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr yn y gymuned ledled Cymru i ddarparu cymorth eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn a gofalwyr lleol fel y gallant helpu i lunio'r penderfyniadau allweddol sy'n effeithio ar eu bywydau ac osgoi mynd i sefyllfa argyfyngus. Mae prosiect HOPE yn cael ei ariannu hyd at fis Mawrth 2025.

Bydd gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth dros y ffôn neu drwy alwad fideo yn bennaf. Lle bo'n briodol, gellir defnyddio dull hybrid yn seiliedig ar anghenion cleientiaid, gyda rhywfaint o gyswllt wyneb yn wyneb wedi'i drefnu.  Mae Age Cymru am sicrhau diogelwch ei holl staff a gwirfoddolwyr ac mae Age Cymru yn dilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Disgrifiad Rôl Eiriolwr Gwirfoddol Annibynnol

Manteision bod yn Eiriolwr Gwirfoddol Annibynnol HOPE

Dim ond rhwng 9am a 5pm bydd disgwyl i Eiriolwyr Gwirfoddol Annibynnol gefnogi pobl o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unol ag oriau gwaith staff y prosiect.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais i fod yn Eiriolwr Gwirfoddol Annibynnol Cysylltwch a ni

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top