Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cefnogi iechyd meddwl da mewn cartrefi gofal

Rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mawrth 2024, cynhaliodd Age Cymru gyfres o brosiectau ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl da ymhlith oedolion hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Yn ystod y pandemig, cafodd preswylwyr cartrefi gofal eu heffeithio’n wael iawn gan gyfyngiadau dyddiol i'w bywydau. Datgelodd prosiectau fel Sut Wyt Ti? gan Age Cymru faint wnaeth y cyfyngiadau hyn effeithio ar iechyd meddwl preswylwyr cartrefi gofal.

Adroddir yn gyson hefyd fod digwyddiadau sy’n effeithio’n fawr ar fywydau pobl yn un o’r elfennau sy’n arwain at y rhan fwyaf o anhwylderau seiciatrig. Mae symud i fyw mewn cartref gofal yn ddigwyddiad pwysig ym mywyd unigolyn; maent yn gorfod ymdopi ag amgylchedd newydd ynghyd â phobl, arferion a gweithgareddau newydd. Mae'n aml yn gysylltiedig â phrofedigaeth hefyd; gall yr unigolyn fod wedi colli partner gofalgar neu ffrind agos, yn ogystal â'u cartref. Gall y newidiadau hyn gael effaith enfawr ar iechyd meddwl unigolyn.

Yn ystod hydref 2023, cynhaliodd Age Cymru brosiect a oedd yn canolbwyntio ar sut y gall cartrefi gofal ddefnyddio eu proses sefydlu i nodi'r pethau penodol sy'n rhoi ystyr i fywyd unigolyn, gan gynnwys eu perthnasoedd, cyfrifoldebau, diddordebau a llawer mwy, ac i archwilio ffyrdd o gynnwys y pethau hyn yn eu gofal.

Nod y dull hwn yw cefnogi'r preswylydd i gynnal y pethau sy’n bwysig iddyn nhw gan leihau effeithiau negyddol y broses sefydlu a sicrhau iechyd meddwl da drwy gydol eu cyfnod yn y cartref gofal.

Cyhoeddodd Age Cymru adnodd ar y pwnc hwn ym mis Mawrth 2024.

Diogelu’r pethau pwysig

Dilynodd yr adnodd hwn adroddiad cynharach a gyhoeddwyd gan Age Cymru ym mis Mawrth 2023, sy'n archwilio cyflwr presennol y gwasanaethau a’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i oedolion hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, yn ogystal â phrofiadau preswylwyr cartrefi gofal gyda'u hiechyd meddwl a’r broses o gael gafael ar gymorth.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r holl breswylwyr cartrefi gofal, staff cartrefi gofal, clinigwyr, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau'r trydydd sector a roddodd eu hamser, arbenigedd a mewnwelediadau i ni drwy gydol y broses ymchwil hon.

 

 

Last updated: Maw 22 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top