Gwrando a Chysylltu
Mae Gwrando a Chysylltu’n wasanaeth gwrando dros y ffôn ar gyfer pobl hŷn sy’n teimlo’n unig ac ynysig.
Mae’r gwasanaeth yn ystyried y person cyfan gan gynnwys eu hiechyd a’u lles, a chynnig lle diogel i bobl medru siarad â gwirfoddolwyr ar sail anfarnol, cyfrinachol a thosturiol.
Mae gwirfoddolwyr yn rhoi amser a chyfle i gleientiaid rannu eu straeon, maent yn gwrando ar eu pryderon gan gynnig cyfle iddynt adlewyrchu a rhoi trefn ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae gwirfoddolwyr yn darparu adnoddau defnyddiol pan fo hynny’n addas, gan gysylltu cleientiaid gyda gwasanaethau defnyddiol.
I gysylltu gyda gwasanaeth Gwrando a Chysylltu Age Cymru, ffoniwch 0330 055 4818.
Mae’r gwasanaeth Gwrando a Chysylltu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. Codir tâl ar gyfradd leol ar gyfer galwadau.
Hoffech chi wirfoddoli gyda’r gwasanaeth Gwrando a Chysylltu?
Dewch o hyd i wybodaeth am sut i ymuno
Os hoffech chi wybodaeth ychwanegol am y gwasanaeth Gwrando a Chysylltu, ffoniwch 07425 422683 er mwyn siarad â’r tîm, neu e-bostiwch CAPlisten@agecymru.org.uk
Mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth am y Prosiect Cynorthwyo Cymunedol
Mwy o wybodaeth am y gwasanaeth Cynorthwyo a Chysylltu
Manylion cyswllt ar gyfer tîm y Prosiect Cynorthwyo Cymunedol