Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Rheoli eich arian yn y gaeaf

Mae llawer ohonom yn teimlo bod y gaeaf yn adeg gostus o'r flwyddyn. Mae nosweithiau tywyllach a thywydd oer yn aml yn golygu biliau drud. Gall tymor yr ŵyl hefyd roi straen ar eich poced.

Gallai ambell newid syml yn eich cartref - neu ychydig o help ychwanegol - leddfu'r broblem os ydych chi'n poeni mwy am arian yr adeg hon o'r flwyddyn.

Paratoi eich cartref ar gyfer y gaeaf

Mae'n rhatach ac yn haws cynhesu'ch cartref os yw'n cael ei inswleiddio'n dda, ac os yw eich system wresogi’n gweithio'n iawn.

  • Sicrhewch fod dim gwynt yn dod i mewn drwy eich drysau a’ch ffenestri, insiwleiddiwch y llofft, lapiwch y tanc dŵr poeth a’r pibellau i fyny, ac ystyriwch inswleiddio waliau ceudod
  • Gwasanaethwch eich system wresogi bob blwyddyn a gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio cyn i'r tywydd oer gyrraedd. Os ydych yn rhentu'ch cartref, mae gan landlordiaid ddyletswydd gyfreithiol i archwilio'r holl offer nwy yn eu heiddo unwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â NEA Cartref Cynnes a Diogel neu Nyth er mwyn darganfod pa welliannau sydd angen ar eich cartref chi, ac i weld os allwch gael unrhyw gyllid.

Efallai y bydd y canllaw a'r daflen ffeithiau ganlynol yn ddefnyddiol.

Canllaw’r Gaeaf

FS1w: Help gyda chostau gwresogi yng Nghymru

Awgrymiadau gwych ar gyfer cartref cynhesach

  1. Tynnwch eich llenni gyda'r nos er mwyn sicrhau bod llai o wres yn cael ei golli drwy’r ffenestri.
  2. Tynnwch lenni hir y tu ôl i reiddiaduron er mwyn bod y gwres yn cael cyrraedd pobl rhan o’r ystafell.
  3. Cadwch reiddiaduron a gwresogyddion yn glir fel bod gwres yn gallu cylchredeg - peidiwch â rhoi dodrefn o'u blaenau na rhoi golch sych drostynt.
  4. Os oes gennych chi ystafelloedd sydd ddim yn cael eu defnyddio, diffoddwch y rheiddiaduron ynddynt a chau'r drysau. Cadwch eich cartref ar dymheredd sefydlog, cyfforddus.  
  5. Defnyddiwch eich rheolyddion gwresogi, fel thermostatau ac amseryddion, i wresogi'ch cartref heb wastraffu egni.

Archwiliad ynni cartref

Mae rhai o bartneriaid lleol Age Cymru’n cynnig gwiriadau ynni cartref. Byddant yn anfon crefftwr dibynadwy i'ch cartref, gan sicrhau bod eich cartref yn effeithlon o ran ynni. Os oes angen, byddant hefyd yn darparu offer am ddim er mwyn eich helpu i arbed arian ar eich biliau.

Partneriaid lleol Age Cymru yn fy ardal i

 


Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl gymorth y mae gennych hawl iddo


Mae'n amser da i wirio eich sefyllfa ariannol a sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Mae nifer o fudd-daliadau, hawliau neu gynlluniau eraill a allai eich helpu chi gyda'ch biliau ynni yn ystod y gaeaf hwn.

Taliad Tanwydd y Gaeaf - mae hwn yn daliad untro blynyddol i aelwyd pob pensiynwr cymwys er mwyn helpu gyda chostau tanwydd. Nid oes unrhyw derfynau incwm na chynilion ac nid ydynt yn drethadwy. Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn, Pensiwn y Wladwriaeth, neu fudd-daliadau penodol eraill – neu os dderbynioch chi daliad yn ystod y gaeaf y llynedd – ni ddylech fod angen hawlio.

Taliad Tywydd Oer - os yw'n oer iawn lle rydych chi'n byw (0 gradd neu lai) am gyfnod o amser, a'ch bod yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn £25 yr wythnos am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer.

Y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes - mae hwn yn ostyngiad ar eich bil trydan. Efallai y byddwch yn medru ei hawlio os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn neu os ydych ar incwm isel.

Benthyciadau Cyllidebu - os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, efallai y byddwch yn medru cael Benthyciad Cyllidebu er mwyn helpu gyda threuliau annisgwyl. Gall hawlwyr Credyd Cynhwysol wneud cais am Flaenswm Cyllidebu yn lle hynny.

Help gyda chostau byw - mae'n siŵr eich bod wedi sylwi bod cyfanswm llawer o'ch biliau’n cynyddu, yn enwedig costau ynni. Mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol am amrywiaeth o gymorth a allai fod ar gael er mwyn eich helpu i gadw trefn ar gostau cynyddol.

Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru : Gall y gronfa ddarparu grantiau nad ydynt yn ad-daladwy ar gyfer pobl sydd angen cymorth ar frys, a dydyn nhw ddim yn medru cael unrhyw gymorth neu gyllid arall. Dim ond ar gyfer anghenion ac eitemau hanfodol y gellir ei ddefnyddio lle gallai eich iechyd a'ch lles fod mewn perygl fel arall.

Efallai y bydd y canllaw a'r daflen ffeithiau ganlynol yn ddefnyddiol.

Canllaw’r gaeaf

FS1w: Help gyda chostau gwresogi yng Nghymru

Mwy o arian yn eich poced


Rhoi hwb i'ch incwm

Darganfyddwch pa fudd-daliadau y gallwch chi eu hawlio.


Help gydag atgyweiriadau yn eich cartref

Gall trwsio ffenestr, drws neu do sydd wedi torri wneud eich cartref yn fwy cyfforddus ac yn rhatach i'w wresogi.

Mewn tai sy'n cael eu rhentu, eich landlord sy'n gyfrifol am waith trwsio penodol, gan gynnwys gwaith atgyweirio strwythurol. Os ydych chi'n berchen ar eich cartref, efallai y gallwch gael help gan eich cyngor lleol neu Asiantaeth Gwella Cartrefi fel Gofal a Thrwsio Cymru

Efallai y bydd cangen Age Cymru yn eich ardal chi hefyd yn cynnig gwasanaethau sydd yn eich cyflwyno i grefftwyr er mwyn eich helpu gydag atgyweiriadau o gwmpas y tŷ.

Taflen ffeithiau 67w: Gwella ac atgyweirio cartrefi ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru (PDF, 939 KB)

Rydyn ni yma i’ch helpu

Rydym yn cynnig cymorth a chyngor drwy Gyngor Age Cymru. Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 (codir tâl ar gyfradd leol) (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). E-bostiwch ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost advice@agecymru.org.uk

 

Last updated: Hyd 25 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top