Clwb Diwylliant
Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr sydd yn frwdfrydig am safleoedd diwylliannol yng Nghymru, er enghraifft amgueddfeydd, gweithiau celf cyhoeddus, a pharciau, i ymuno gyda’n Clwb Diwylliant newydd a chefnogi pobl hŷn ynysig i ymweld â safleoedd o’r fath.
Prif amcanion y Clwb Diwylliant, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw datblygu hyder pobl hŷn ynysig, eu helpu i wneud ffrindiau newydd, a’u hannog i fynd allan i fwynhau ein safleoedd diwylliannol amrywiol yn ddiogel, gyda help gwirfoddolwr cyfeillgar.
Bydd gwirfoddolwyr yn medru teithio gyda’r bobl hŷn, neu gallwch gwrdd â nhw ger y safle, beth bynnag sydd well gan bawb. Byddwn yn darparu hyfforddiant ac yn eich paru gyda rhwng un a phedwar person hŷn ar gyfer sesiynau misol.
Bydd y Clwb Diwylliant yn gynllun brosiect peilot yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn ystod y Gwanwyn, cyn i ni ehangu’r prosiect i gynnwys rhannau eraill o Gymru yn hwyrach yn y flwyddyn.
Medrwch lawrlwytho copi o’r swydd ddisgrifiad isod. Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Kelly Barr