Mwy o arian yn eich poced
Mae llawer iawn o fudd-daliadau gwladol yn mynd heb eu hawlio. Allech chi fod ar eich colled? Mae ychydig o arian ychwanegol yn gallu mynd yn bell, felly beth am fwrw golwg ar beth allech chi fod yn ei hawlio?
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod hyd at werth £200 miliwn o Gredyd Pensiwn yn mynd heb ei hawlio gan bobl hŷn yng Nghymru. Allech chi fod yn un o'r bobl sydd ar eu colled?
Y llynedd, fe wnaeth partneriaeth Age Cymru gefnogi pobl hŷn i hawlio mwy na £7.5m o fudd-daliadau a hawliau.
Mae ein canllawiau arian yn cynnig gwybodaeth am amrywiaeth o fudd-daliadau, a sut i fynd ati i'w hawlio, er mwyn i chi sicrhau nad ydych chi'n un o'r rhai sydd ar eu colled. Gallwch lawrlwytho'r canllawiau, neu ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 er mwyn i ni anfon copi o’r canllawiau i’ch cartref am ddim.
Mae llawer iawn o fudd-daliadau gwladol yn mynd heb eu hawlio. Allech chi fod ar eich colled? Mae ychydig o arian ychwanegol yn gallu mynd yn bell, felly beth am fwrw golwg ar beth allech chi fod yn ei hawlio?
Os oes gennych anabledd neu salwch sy'n golygu y gallech fod angen help ychwanegol gartref efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gweini.
Lwfans Gofalwr yw'r prif fudd-dal lles i helpu gofalwyr. Hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl amdanoch eich hun fel gofalwr, mae'n werth gwirio os allai Lwfans Gofalwr eich helpu.
Mae'r Dreth Gyngor yn dreth orfodol, sy'n seiliedig ar eiddo sy'n cael ei dalu i awdurdodau lleol. Mae'n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth gyda'ch bil Treth Cyngor drwy Gynllun Gostyngiad Treth Cyngor eich awdurdod lleol.
Gall Credyd Pensiwn roi ychydig o arian ychwanegol i chi ar ôl ymddeol. Os ydych yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, gallai hawlio Credyd Pensiwn helpu.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd a wneir i chi gan y Llywodraeth unwaith y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch pa fudd-daliadau y gallwch chi eu hawlio
Rydym yn cynnig cymorth a chyngor drwy Gyngor Age Cymru. Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 (codir tâl ar gyfradd leol) (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). E-bostiwch ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost advice@agecymru.org.uk