Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gwybodaeth am ein Rhaglen Eiriolaeth Edau Euraidd

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Rhan 10 Cod Ymarfer (Eiriolaeth)

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn cael effaith fawr ar y mathau o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol a sut maen nhw'n cael eu darparu yng Nghymru. Mae'n rhoi pobl wrth wraidd darpariaeth gwasanaethau. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol, o dan rhai amgylchiadau, sicrhau bod gan unigolyn fynediad at eiriolaeth.

Mae Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn wasanaeth sy'n gallu cefnogi rhywun i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau ynglŷn â'u lles a sicrhau bod eu barn, dymuniadau a theimladau'n cael eu clywed, eu parchu a'u hystyried. Mae eiriolaeth yn cefnogi pobl i gadarnhau eu hawliau, i fynegi eu barn, i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio arnyn nhw, ac os oes angen mae eiriolaeth yn cynrychioli barn pobl mewn cyfarfodydd.

Ariannwyd y Rhaglen Eiriolaeth Edau Euraidd gan Lywodraeth Cymru am bedair blynedd (2016 i 2020) i redeg ochr yn ochr â'r gwaith o weithredu Rhan 10 (Eiriolaeth) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac i’w gefnogi.

Prif nodau'r rhaglen oedd

  • Cefnogi comisiynu eiriolaeth broffesiynol annibynnol drwy ddull cynaliadwy, strategol
  • Gwella argaeledd gwasanaethau eiriolaeth i oedolion ledled Cymru
  • Gwella lles unigolion trwy eiriolaeth a rhoi llais cryfach iddynt
Mae’r rhaglen genedlaethol hon yn
  • Cefnogi timau rheoli/comisiynu iechyd strategol a gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol rheng flaen wrth ddeall eu cyfrifoldebau ynghylch eiriolaeth o dan y Ddeddf.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu modelau cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli.
  • Gweithio gyda darparwyr gwasanaethau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer prosesau comisiynu eiriolaeth statudol.
  • Crëwyd fframwaith er mwyn annog cydweithio rhwng cyrff statudol a darparwyr gwasanaethau. Bydd y fframwaith yn sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon er mwyn cefnogi canlyniadau llesiant.
  • Gweithio gyda grwpiau cynrychioladol o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth o bob math, wrth arfer rheolaeth dros eu canlyniadau lles.
  • Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o les a chefnogi gwelliannau i ddiogelu drwy roi llais cryfach i bobl â nodweddion gwarchodedig.
Beth wnaeth pobl elwa o'r rhaglen?

Ar ddiwedd y rhaglen mae gan yr holl randdeiliaid:

  • mwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth am werth eiriolaeth
  • offer cyfathrebu i hyrwyddo'r angen am ddatblygu gwasanaethau eiriolaeth ac i nodi lle y gellir blaenoriaethu eiriolaeth orau
  • y gallu i gymhwyso arferion gorau mewn eiriolaeth fel rhan annatod o fwriadau comisiynu.

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top