Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo
18 Medi – 22 Medi 2023
Mae Age Cymru’n gweithio mewn partneriaeth ag Age Connects Cymru a Care & Repair Cymru er mwyn arwain ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am gwympo. Eleni, ein ffocws yw pontio’r cenedlaethau, ac annog partneriaid yn Tasglu Cenedlaethol Cymru i rannu unrhyw waith lleol sy’n digwydd mewn ysgolion neu waith arall sy’n ymwneud â phontio’r cenedlaethau.
Adnoddau Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau
Rydyn ni wedi creu adnoddau defnyddiol iawn er mwyn cychwyn y sgwrs am gwympiadau. Gallwch chi ein helpu ni i rannu’r neges nad yw cwympo’n rhan anochel o heneiddio.