Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol (cyn 2016)

Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol (cyn 2016)  

Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol?  

A allaf hawlio Pensiwn y Wladwriaeth?  

Faint o Bensiwn y Wladwriaeth fydda i'n ei dderbyn?  

Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol?  

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd gan y Llywodraeth yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.  

Mae dwy system wahanol ar gyfer hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu cyn 5 Ebrill 2016, hynny yw, os ydych chi’n: 

  • dynes a aned ar neu cyn 5 Ebrill 1953
  • dyn a aned ar neu cyn 5 Ebrill 1951  

Y dyddiad yr ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth sy'n bwysig, nid y dyddiad pan fyddwch chi'n dechrau ei hawlio.  

Os cawsoch eich geni ar ôl y dyddiadau uchod ac felly'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2016, bydd rheolau Pensiwn y Wladwriaeth newydd yn berthnasol i chi

Mae’r hen Bensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys dwy ran:  

  • Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol blaenorol
  • Mae Pensiwn Gwladol Ychwanegol hefyd yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond mae’n ystyried eich enillion ac os oeddech yn hawlio budd-daliadau hefyd.  

A allaf hawlio Pensiwn y Wladwriaeth?  

Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol os:  

  • Ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu cyn 5 Ebrill 2016 (gweler uchod am fanylion llawn)
  • Oes gennych 30 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn cynnwys cyfraniadau a wnaethoch pan oeddech yn gweithio, a chyfraniadau a gafodd eu gwneud yn eich enw chi pan nad oeddech yn medru gweithio - er enghraifft, os oeddech yn gofalu am blentyn neu berson anabl, neu'n hawlio rhai budd-daliadau. 

Os ydych yn gymwys i hawlio Pensiwn Gwladol Sylfaenol, efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol. Bydd y swm y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar:  

  • eich enillion
  • os oeddech yn hawlio rhai budd-daliadau  

Alla i hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a pharhau i weithio?  

Gallwch yn siŵr, ond dyma rai pethau y dylech eu hystyried: 

  • Ni fydd unrhyw arian rydych chi'n ei ennill yn effeithio ar eich Pensiwn, ond gall effeithio ar eich hawl i dderbyn budd-daliadau eraill megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu gymorth gan y Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor
  • Byddwch yn ymwybodol hefyd bod Pensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy, felly pan gaiff ei ychwanegu at eich enillion efallai y byddwch mewn band treth uwch. 
  • Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol mwyach, hyd yn oed os byddwch chi'n parhau i weithio.  

Faint o Bensiwn y Wladwriaeth fydda i'n ei dderbyn?  

  • Ar hyn o bryd, £169.50 yr wythnos yw Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol (yn 2024/25) ar gyfer pobl sydd â 30 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
  • Os ydych chi wedi cyfrannu am lai na 30 mlynedd, fe gewch 1/30 o swm pensiwn y Wladwriaeth lawn ar gyfer pob blwyddyn o gyfraniadau. 

Yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol, efallai y cewch Bensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol. Mae hyn hefyd yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae faint a gewch yn dibynnu ar eich enillion ac os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol.  

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Gyngor age Cymru ar 08000 223 444. 

 

Last updated: Ebr 05 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top