Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cofrestru am alwad cyfeillgarwch

Oherwydd bod rhestr aros hir am ein gwasanaeth, rydym yn atal unrhyw gyfeiriadau newydd i'r gwasanaeth am y tro.

Mae galw mawr am ein gwasanaeth ac mae angen mwy o bobl i gael eu hyfforddi fel ffrind dros y ffôn. Rydyn ni angen eich help yn fwy nag erioed o'r blaen. Cofrestrwch heddiw fel cyfaill dros y ffôn a helpwch i wneud diwrnod rhywun ychydig yn fwy llawen.

Os ydych yn 70 oed neu'n hŷn ac yn byw yng Nghymru, gallwch gofrestru am alwad ffôn am ddim gan wirfoddolwr sydd wedi cael ei hyfforddi a’i fetio drwy lenwi'r ffurflen gofrestru, neu drwy ffonio Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98. Mae’r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am tan 4:00pm.

Bydd galwadau cyfeillgarwch yn cael eu gwneud unwaith yr wythnos. Byddant yn digwydd ar yr un amser a’r un diwrnod bob wythnos, ac maen nhw'n 30 munud o hyd.

Wedi i ni dderbyn eich ffurflen gofrestru byddwn yn rhoi galwad ffôn i chi yn ystod yr wythnos sydd yn dilyn. Yn ystod yr alwad hon byddwn yn dod i wybod mwy amdanoch chi, ac yn casglu gwybodaeth ar gyfer y broses baru. Efallai y bydd y broses o’ch paru â gwirfoddolwr yn cymryd ychydig o amser, felly byddwn yn rhoi galwad ffôn 5 munud o hyd i chi bob wythnos nes bod gennych wirfoddolwr.

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Oes yna unrhyw un nad yw'r gwasanaeth yn addas ar ei gyfer?

Efallai na fydd y gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn yn addas i bobl sy'n colli eu cof, pobl sydd yn byw gyda dementia neu bobl sydd yn byw gyda materion iechyd meddwl sydd angen cymorth lefel uwch. Gall yr amodau hyn effeithio ar allu'r unigolyn i feithrin cyfeillgarwch ffôn gyda gwirfoddolwr. Mewn rhai achosion, gall pobl â'r cyflyrau hyn deimlo bod y galwadau'n achosi gofid iddynt.

Gaf i dderbyn galwad yn Gymraeg?

Gallwch, byddwch yn derbyn galwad ddilynol gan aelod o staff lle byddant yn gofyn i chi a fyddai'n well gennych dderbyn galwad yn Gymraeg neu Saesneg, a byddwn yn eich paru â gwirfoddolwr yn unol â hynny.

Mae gen i golled synhwyraidd, alla i dderbyn cefnogaeth?

Gallwch, byddwch yn derbyn galwad ddilynol gan aelod o staff lle byddant yn gofyn i chi am unrhyw gefnogaeth sydd angen arnoch a byddwn yn eich paru â gwirfoddolwr yn unol â hynny.

Gaf i dderbyn galwad mewn iaith wahanol heblaw Cymraeg neu Saesneg?

Gallwch, byddwn yn gofyn i chi am eich dewis iaith yn ystod yr alwad ddilynol a sicrhau eich bod yn derbyn y gwasanaeth yn yr iaith hynny.

Sut fydda i'n cael fy mharu?

Byddwn yn gofyn i chi am eich diddordebau a'ch cefndir yn ystod yr alwad ddilynol ac yn eich paru â rhywun a fyddai'n addas i chi sgwrsio â nhw.

Beth am fy manylion?

Byddwn ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn i gysylltu â chi am eich galwad wythnosol. Gofynnwn i chi beidio rhannu manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad gyda'ch ffrind ffôn.

Alla i ofyn am alwr gwahanol?

Weithiau gall gymryd amser i feithrin perthynas â'ch ffrind ffôn felly rydym yn argymell eich bod yn aros sawl wythnos cyn penderfynu eich bod chi eisiau siarad gyda rhywun gwahanol.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd iawn, yna rhowch wybod i ni a byddwn yn trafod eich opsiynau gyda chi.

A yw'n ddiogel?

Rydym am sicrhau bod popeth yn ddiogel, felly cyn i chi dderbyn galwad gan eich ffrind ffôn byddwn ni wedi:

  • Gofyn iddynt ddarparu dau eirda
  • Gwirio eu henw a’u dyddiad y geni yn eu cyfeiriad, a gwirio mai’r unigolyn yw’r person rydyn ni’n siarad gyda nhw
  • Ei gwneud yn ofynnol iddynt gwblhau gwiriad DBS
  • Ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gytuno â'n telerau ac amodau.

Yn ogystal, lle bo'n bosibl, ni fyddwch yn cael eich paru â rhywun yn eich ardal leol, ac mae pob galwad yn cael ei chofnodi.

Sut ydw i'n cofrestru am alwad cyfeillgarwch?

Oherwydd bod rhestr aros hir ar gyfer ein gwasanaeth, rydym yn atal unrhyw gyfeiriadau newydd i'r gwasanaeth am y tro.

 

Last updated: Tach 28 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top