Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gwirfoddoli fel cyfaill dros y ffôn

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm cyfeillio dros y ffôn gwirfoddol i gysylltu â phobl hŷn drwy wneud galwad gyfeillgarwch 30 munud wythnosol.

Gallwch ddysgu mwy am y rôl hon, a chofrestru fel gwirfoddolwr ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Unwaith rydych chi wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru, chwiliwch ar eu gwefan am gyfer ‘Ffrind Mewn Angen’ i ddod o hyd i'r cyfle gwirfoddoli hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i chi gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru a gwneud cais am y cyfle hwn, byddwch yn derbyn ffurflen diddordeb gwirfoddolwyr gan dîm Ffrind Mewn Angen yn Age Cymru. Ar ôl llenwi ffurflen ddiddordeb llwyddiannus bydd y tîm yn cysylltu gyda chi i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a dechrau'r broses sefydlu.

Yn dilyn cyfnod ymsefydlu a hyfforddi, byddwn yn darganfod ychydig amdanoch chi er mwyn i ni ddod o hyd i unigolyn i chi eu ffonio. Byddwn yn eich paru â pherson hŷn yn seiliedig ar eich diddordebau, hobïau, credoau, cefndir neu unrhyw beth arall a allai eich helpu i ddod i adnabod eich gilydd.

Ar ôl y broses baru, byddwn yn cytuno ar amser sydd yn gyfleus i chi a’r person hŷn er mwyn i'ch galwadau wythnosol ddechrau.

Mwy o wybodaeth

Beth yw pwrpas cyffredinol y rôl?

Drwy gofrestru i fod yn gyfaill, rydych chi'n helpu i leihau ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd ymhlith pobl hŷn yn ein cymunedau. Gall gymdeithasu rheolaidd helpu i fagu hyder, hunan-barch a rhoi strwythur i rywun, ymhlith llawer o ganlyniadau cadarnhaol eraill. Ni allai prosiectau cyfeillio weithredu heb bobl fel chi. Mae'r gwaith y byddwch chi'n ei wneud yn y rôl hon wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Byddwch yn galw'r person unwaith yr wythnos, yr un pryd bob wythnos, i gynnig ychydig o gwmni a sicrhau bod popeth yn iawn. Dylai'r alwad bara tua 30 munud.

Byddwch yn sgwrsio, gan ddarparu cwmni a llais cyfeillgar i rywun a allai fod yn ynysig ac yn unig.

  • Byddwch yn creu nodiadau byr o'ch sgwrs, a byddwch yn dychwelyd y nodiadau at y Swyddog Gwirfoddolwyr ar ôl yr alwad
  • Rhoi sicrwydd i'r person hŷn a'i helpu i ddehongli canllawiau Llywodraeth Cymru ar Covid-19
  • Cyfeiriwch y person hŷn at ein Llinell Gyngor os oes angen cymorth pellach arnynt.

Pa gefnogaeth a gewch?

Byddwn yn cynnal cyfnod sefydlu, a darparu hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth i chi ar sut i ddechrau galwad, beth i'w wneud yn y canol a sut i ddod â galwad i ben, yn ogystal â beth i'w wneud yn ystod galwadau mwy heriol neu os ydych yn meddwl y gallai rhywun fod mewn perygl

  • Byddwn yn rhoi rhywfaint o arweiniad i chi ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar y Coronafeirws ac yn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth ddiweddaraf sydd ei hangen arnoch i helpu'r person hŷn yn ystod yr amser heriol hwn.
  • Byddwn yn rhoi dogfen gyfeirio i chi gyda ffynonellau eraill o gefnogaeth.
  • I ddechrau byddwn yn rhoi awgrymiadau a gwybodaeth gefndirol i chi i wneud yn siŵr bod eich galwadau yn llwyddiannus o’r dechrau. Ond ni fydd angen y gefnogaeth hon arnoch yn hir.

Pa ymrwymiad sydd ei angen?

Mae natur cyfeillio yn golygu sefydlu ac adeiladu perthynas, felly rydyn ni'n chwilio am bobl sy'n gallu ymrwymo i gyfeillio â pherson hŷn am gyfnod. Os ydych chi'n chwilio am rywbeth i lenwi'ch amser dros yr wythnosau nesaf, nid yw’r prosiect hyn i chi.

Yn naturiol, rydym yn deall bod sefyllfaoedd ac amgylchiadau personol yn newid, felly os bydd na newidiadau, rydym yn gofyn i chi roi gwybod i ni er mwyn i ni wneud trefniadau amgen er mwyn fod y person hŷn yn parhau i dderbyn galwadau.

Os oes gennych ymrwymiad na allwch aildrefnu yn ystod y cyfnod rydych chi fod gwneud galwad ffôn, rhowch wybod i ni a byddwn yn helpu i wneud trefniadau i chi ffonio ar adeg wahanol neu sicrhau bod y person rydych chi fel arfer yn ei alw'n gwybod na fyddwch yn galw'r wythnos hynny.

 

Last updated: Tach 28 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top