Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Straeon gwirfoddolwyr

Siaradom â Catherine a Remo sy'n gwirfoddoli i wneud galwadau cyfeillgarwch i ddarganfod sut mae gwirfoddoli gyda'n gwasanaeth hanfodol yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a'r bobl maen nhw'n eu galw bob wythnos.

Pam wnaethoch chi benderfynu gwirfoddoli gydag Age Cymru?

Catherine

Ro'n i eisoes yn gwirfoddoli gyda Age Cymru gyda'i sesiynau ffrindiau. Clywais am y prosiect hwn ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn achos gwerth chweil ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r broses.

Remo

Dwi'n meddwl ei fod o i wneud efo fy nghymeriad, dwi'n berson cymdeithasol iawn a dwi jest wrth fy modd yn cwrdd â phobl. Dwi wedi cyrraedd pwynt yn fy mywyd lle mae gen i'r amser i ymgymryd â phethau dwi'n eu hoffi; mae hyn wedi cynnwys llawer o wirfoddoli. Drwy'r profiadau gwirfoddoli hyn wnes i ddarganfod Age Cymru. Cyn y pandemig roeddwn i'n arweinydd grŵp Cerdded Nordig, gan helpu pobl i fynd allan o'r tŷ a chael ychydig o ymarfer corff. Dwi wedi bod yn gwirfoddoli ers 10 mlynedd ac rydw i mor falch o allu parhau i wirfoddoli yn ystod pandemig.

Beth wyt ti wedi ei ddysgu drwy wirfoddoli gydag Age Cymru?

Catherine

Dwi 'di cwrdd â lot o ffrindiau hyfryd. Dwi wedi dysgu i wir wrando ar beth mae pobl ei angen, ac yn gyffredinol dyna'r cyfan sydd ei angen ar rywun; rhywun i wrando. Mae'n rhoi teimlad anhygoel o dda i mi. Rydw i’n sgwrsio gyda Ken; mae e wastad yn dweud ei bod hi mor hyfryd clywed fy llais pryd bynnag dwi'n ei alw. Rydyn ni wastad yn chwerthin a chael sbri pan fyddwn ni'n siarad.

Remo

Mae gwirfoddoli gyda Age Cymru wedi gwneud i mi sylweddoli bod yna bobl yn llawer gwaeth eu byd na chi'ch hun. Mae'n wirioneddol ostyngedig a dwi wedi sylweddoli bod yna lawer y galla i'w wneud i helpu fy nghymuned. Mae wedi bod yn hynod o werthfawr, a dwi hefyd wedi elwa o'r galwadau ffôn. Dwi wedi cyfarfod â chymaint o bobl neis a llawer o bobl byddwn yn eu hystyried fel fy ffrindiau nawr.

Does dim pwysau o gwbl, dim ond sgwrs gyfeillgar yw hi gyda rhywun. Dwi wedi cwrdd â phobl sy'n byw yn fy nghymuned nad oeddwn i'n eu hadnabod o'r blaen, ac mae'r sgyrsiau yn helpu fy lles fy hun yn ogystal â'r person rwy'n siarad â nhw.

Ydi gwirfoddoli gyda Age Cymru wedi newid eich barn am unigrwydd?

Catherine

Yn bendant. Mae wedi gwneud i mi ddeall sut brofiadau mae pobl yn eu cael, yn enwedig problemau iechyd meddwl oherwydd unigrwydd, a dwi'n ddigon ffodus i fod erioed wedi profi hynny. Mae'n hynod o hawdd i'w wneud, dim ond rhyw awr y mae'n ei gymryd, tra ei fod yn gwneud byd o wahaniaeth i'r person rwy'n siarad â nhw.

Remo

Ydy, mae wedi gwneud i mi weld bod yna lawer o bobl unig allan yn y byd, a sut mae pobl eraill yn byw a'r anawsterau maen nhw'n eu hwynebu. Dydych chi ddim yn sylweddoli bod y pethau syml rydych chi'n eu gwneud mor bwysig i rywun arall, gallwch gael effaith enfawr ar ddiwrnod person arall.

Unrhyw sylwadau eraill?

Catherine

Yn bendant ewch amdani, nid yw'n costio dim. Mae'n neis siarad â rhywun arall, yn enwedig ar hyn o bryd pan mae rheolau am bwy rydych chi’n medru cyfarfod a nhw. Mae'n stryd ddwy ffordd oherwydd rydw i’n cael llawer o hapusrwydd wrth wirfoddoli hefyd. Dwi lot hapusach ers gwirfoddoli gydag Age Cymru, gan fy mod i 'di gweld eisiau helpu pobl. Rwy'n credu y dylai pawb gael tro arni.

Remo

Mae gweithio gydag Age Cymru wedi gwneud i mi werthfawrogi bywyd cyffredinol, a bod bywyd yn rhywbeth arbennig. Mae’r person rwy'n ei alw'n wythnosol yn ffrind i mi erbyn hyn. Mae'n edrych ymlaen at ein sgwrs; dyna yw uchafbwynt ei ddydd. Llwyddodd Age Cymru i’m paru’n berffaith gyda fy ffrind mewn angen. Mae gennym ddiddordebau tebyg a gallwn fod yn sgwrsio am oriau am lyfrau.

Os yw'r straeon hyn wedi eich ysbrydoli i wirfoddoli, yna ymunwch â'n gwasanaeth cyfeillgarwch i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn yng Nghymru. Ymunwch â ni heddiw.

 

Last updated: Tach 28 2022

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top