Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru and Age Cymru Gwynedd a Môn showcasing an array of services and activities at this year’s National Eisteddfod in Llŷn and Eifionydd

Published on 02 Awst 2023 11:02 yb

Dewch i ymweld â ni ar stondinau 508 a 509 rhwng 5 a 12 o Awst.

Bydd Age Cymru ac Age Cymru Gwynedd a Môn yn cynnal amrywiaeth o wasanaethau lleol a chenedlaethol, gweithgareddau, a sesiynau sgwrsio ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Byddwn yn arddangos gweithgareddau corfforol, yn cynnwys seiclo rhithiol, sy’n medru darparu cyfleoedd cyffrous i bobl hŷn. Byddwn ni hefyd yn arddangos Tai Chi, gweithgaredd hynod o boblogaidd sy’n helpu i wella ystwythder a chryfder craidd, gan helpu pobl i osgoi cwympo.

Byddwn yn cynnal trafodaethau ar faterion sy’n allweddol i bobl hŷn; bydd yr awdurdod lleol yn trafod beth maen nhw’n ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, a bydd Dr. Catrin Hedd Jones, darlithwraig astudiaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd darparu cefnogaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n byw gyda dementia.

Byddwn ni hefyd yn arddangos llawer o sgiliau crefft yn cynnwys gwneud mygiau a bagiau personoledig, crosio ac addurno cacennau ag eisin.

Ond efallai eich bod chi eisiau sgwrsio am fater sy’n effeithio arnoch chi neu anwylyn.  Os felly, dewch draw am baned o de am ddim, a byddwn ni’n ceisio ateb eich cwestiynau neu o leiaf eich helpu i fynd ar y trywydd cywir.

Meddai Victoria Lloyd, Prif Weithredwraig Age Cymru, “Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gydag Age Cymru Gwynedd a Môn er mwyn arddangos y gefnogaeth mae rhwydwaith Age Cymru’n medru darparu, a’r materion sy’n bwysig i bobl hŷn yng Nghymru.

“Felly, os ydych chi’n ymweld â’r Eisteddfod eleni, dewch i weld os fedrwn ni eich helpu chi neu berson hŷn rydych chi’n ei nabod.”

I gael gwybodaeth ychwanegol am ein stondin yn yr Eisteddfod ewch i www.agecymru.org.uk/aboutus neu ffoniwch 07794 366224.

 

Last updated: Awst 02 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top