Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Elusennau pobl hŷn yn cynnal digwyddiad Lles y Gwanwyn yn warws Riverside yng Nglan yr afon, Caerdydd

Published on 03 Ebrill 2024 01:08 yh

Grŵp o hen ddynion yn eistedd o gwmpas bwrdd

Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

Bydd Age Cymru, ynghyd â'u partneriaid prosiect HOPE, Age Connects Caerdydd a'r Fro, yn cynnal digwyddiad Llesiant y Gwanwyn ar ddydd Gwener 1 Mawrth 2024 rhwng 10am a 2pm yn warws Riverside yng Nglan yr afon, Caerdydd.

Mae HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) yn brosiect partneriaeth sy'n darparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn (50+) a'u gofalwyr ledled Cymru.

Bydd y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a chymorth i helpu pobl sy'n 50 oed neu'n hŷn, a'u gofalwyr, i gadw'n iach yn ystod y  gwanwyn eleni. 

Bydd gwybodaeth am amrywiaeth o faterion gan gynnwys eiriolaeth, hawlio budd-daliadau, tai, diogelwch cymunedol, gwirfoddoli, a sut i leihau eich biliau ynni.

Bydd mwy na dwsin o sefydliadau'n mynychu, gan gynnwys Tîm Llesiant Cyngor Caerdydd, Gofal a Thrwsio Caerdydd a'r Fro, Cyngor gan Into Work, Pantry Bwyd Glan yr Afon a'r Prosiect Gofalwyr Di-dâl.

Bydd Prosiect Datblygu Cymunedol South Riverside hefyd yn darparu dehonglwyr gwirfoddol ar y diwrnod i gefnogi pobl sy’n siarad Arabeg, Ffrangeg, Eidaleg, Wrdw, Pashto, Punjabi neu Honufia fel eu hiaith gyntaf.

Bydd lluniaeth am ddim drwy gydol y digwyddiad yn ogystal â cherddoriaeth gan artistiaid o'r 'Prosiect River Music' a fydd yn chwarae amrywiaeth eang o gerddoriaeth i gynrychioli'r gwahanol ddiwylliannau a chenhedloedd sy'n byw yn yr ardal. 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Rebecca Grace-Ford ar 07944 995494 neu e-bostiwch rebecca.grace-ford@agecymru.org.uk. I gael gwybodaeth gyffredinol am brosiect HOPE ffoniwch 029 2043 1555 neu ewch i www.agecymru.org.uk/advocacy. 

 

Last updated: Ebr 03 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top