Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru’n lansio eu pumed arolwg o brofiadau pobl dros 50 oed yng Nghymru

Published on 03 Ebrill 2024 01:23 yh

Mae arolwg ‘Beth sy’n Bwysig i Chi?’ yn ein helpu ni i ddeall heriau, anghenion a dyheadau pobl hŷn.

Mae Age Cymru a'r sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli pobl hŷn yng Nghymru wedi lansio eu pumed arolwg blynyddol Beth sy'n Bwysig i Chi? gan holi pobl dros 50 oed ledled Cymru, er mwyn i ni wella ein dealltwriaeth o'r heriau sy’n wynebu pobl hŷn, yn ogystal â’u hanghenion a'u dyheadau. 

Ymatebodd mwy na phum mil o bobl i arolygon blaenorol gan ddarparu tystiolaeth hanfodol.  Roedd hyn yn caniatáu i'r elusen lywio a hysbysu’r bobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol, a'r sector gofal ehangach.

Meddai cynrychiolwyr yr elusen bod yr arolwg dwyieithog hefyd yn eu helpu i flaenoriaethu eu gwaith gan eu galluogi i wella’r ffordd maent yn adlewyrchu ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl hŷn yng Nghymru.  Mae'r arolwg yn ymdrin ag ystod eang o faterion gan gynnwys mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, cyllid personol, materion yn ymwneud â thai, cyfrifoldebau gofalu, cyfleoedd am waith â thâl, ac ansawdd ac argaeledd trafnidiaeth leol, gan gynnwys trafnidiaeth sy’n gysylltiedig â’r ysbyty.

Dywedodd pennaeth polisi Age Cymru, Heather Ferguson "Rydym yn gwybod bod llawer o bobl hŷn yn wynebu heriau anodd ar hyn o bryd megis anawsterau o ran cael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, ymdopi â'r argyfwng costau byw, ac maent yn wynebu toriadau mewn meysydd fel trafnidiaeth gyhoeddus a bancio wyneb yn wyneb. Felly, mae angen i ni wybod beth yw blaenoriaethau pobl hŷn a beth yw eu syniadau ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn.  

"Po fwyaf o wybodaeth rydyn ni'n casglu, y mwyaf dylanwadol ac effeithiol y byddwn ni wrth ymgyrchu gyda phobl hŷn yng Nghymru ac ar eu cyfer.

"Os hoffai unrhyw un ymgyrchu gyda'r elusen dros unrhyw un o'r materion a nodwyd yn yr arolwg, rhowch wybod i ni.  Rydym bob amser yn ceisio cydweithio er mwyn tynnu sylw’r cyfryngau, gwleidyddion, a llawer o randdeiliaid allweddol eraill at y materion sy’n bwysig i chi.  Cysylltwch â'm cydweithiwr Michael Phillips am sgwrs anffurfiol ar 07794 366 224 neu e-bostiwch michael.phillips@agecymru.org.uk" 

Sut i gwblhau ein harolwg 

Ewch i www.agecymru.org.uk/annualsurvey i gwblhau'r arolwg ar-lein. Am y fersiwn Gymraeg ewch i www.agecymru.cymru/arolwgblynyddol

 I gael copi papur ffoniwch 029 2043 1555 a dychwelwch yr arolwg gan ddefnyddio ein cyfeiriad rhadbost: Age Cymru, FREEPOST RTZG-JHGC-RYJJ, LLAWR GWAELOD, Tŷ’r Mariners, Age Cymru, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, CAERDYDD CF24 5TDY dyddiad cau ar gyfer arolygon sydd wedi'u cwblhau yw dydd Gwener 29 Mawrth 2024.

 

Diwedd.

 

Last updated: Ebr 03 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top