Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru yn cynnal digwyddiad Lles yn ystod y Gaeaf yn Amgueddfa Aberystwyth

Published on 31 Ionawr 2024 03:52 yh

Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 10am – 2pm

Mae prosiect HOPE Age Cymru yn cynnal digwyddiad Lles yn ystod y Gaeaf ar ddydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023, rhwng 10am a 2pm, yn Amgueddfa Aberystwyth.

Bydd y digwyddiad, sy'n rhad ac am ddim, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i helpu pobl sy'n 50 oed neu'n hŷn, a'u gofalwyr, i gadw'n iach yn ystod y gaeaf.

Yn ogystal â phrosiect HOPE bydd llawer o bartneriaid eraill hefyd yn darparu gwybodaeth fel Age Cymru Dyfed, CAVO, Cyngor ar Bopeth Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn ogystal â'r stondinau gwybodaeth, byddwn yn cynnig taith dywys 30 munud o hyd o gwmpas yr amgueddfa, stondin hel atgofion, a bingo gyda gwobrau.

Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos y gêm Boccia lle mae'r cyfranogwyr yn taflu, cicio, neu ddefnyddio ramp i yrru pêl o gwmpas cwrt chwarae gyda'r nod o agosáu at 'jac'.  Mae’r gêm yn cael ei chwarae'n bennaf gan ddefnyddwyr cadair olwyn.

Ac wrth gwrs, bydd lluniaeth ysgafn ar gael am ddim drwy gydol y digwyddiad.Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r gweithgareddau, cysylltwch â Luc-antoine Bonte ar 07943186766 neu e-bostiwch luc-antoine.bonte@agecymru.org.uk. Gallwch hefyd gofrestru ar y diwrnod.  

Am fwy o wybodaeth gyffredinol am brosiect HOPE ffoniwch 029 2043 1555 neu ewch i www.agecymru.org.uk/advocacy 

 

Last updated: Ion 31 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top