Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Age Cymru yn lansio ei bedwerydd arolwg blynyddol ar gyfer pobl dros 50 yng Nghymru

Published on 28 Mawrth 2023 03:08 yh

Mae'r arolwg Beth sy’n bwysig i chi yn rhoi mewnwelediadau amhrisiadwy i heriau, anghenion a dyheadau pobl hŷn

Mae Age Cymru a'i bartneriaid wedi lansio eu pedwerydd arolwg blynyddol Beth sy’n bwysig i chi ar gyfer pobl dros 50 oed ledled Cymru, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'u heriau, eu hanghenion a'u dyheadau.  

Mae bron i bedair mil o bobl wedi ymateb i’r arolygon blaenorol.  Mae eu hymateb wedi darparu gwybodaeth hanfodol i'r elusen er mwyn llywio a dylanwadu ar bobl sy'n gwneud penderfyniadau a darparwyr gwasanaethau allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol, a'r sector gofal ehangach.  Mae’r wybodaeth hefyd wedi helpu'r elusen a'i phartneriaid i ymgyrchu ar y materion sydd bwysicaf i bobl.

Mae'r arolwg yn ymchwilio profiadau pobl hŷn fel y rhai sy'n derbyn gofal iechyd a chymdeithasol, a'r rhai sy'n aros am wasanaethau o'r fath.  Mae hefyd yn edrych ar fywydau gofalwyr hŷn di-dâl a phrofiadau pobl hŷn yn y gweithle, gan gynnwys pobl sy'n chwilio am waith yn hwyrach yn eu bywydau.  

Dywed Pennaeth Polisi Age Cymru, Heather Ferguson: "Rwy'n annog pobl i gwblhau'r arolwg oherwydd wrth gasglu llawer o bobl gallwn fod yn ddylanwadol wrth ymgyrchu gyda phobl sy’n 50 oed neu hŷn ledled Cymru, ac wrth ymgyrchu ar eu cyfer.

"Ac os hoffai unrhyw un ein helpu i ymgyrchu ar y materion a nodwyd yn yr arolwg hwn, rhowch wybod i ni.  Rydym bob amser yn ceisio cydweithio i ddod â materion at sylw’r cyfryngau, gwleidyddion, a llawer o randdeiliaid allweddol eraill.  Cysylltwch â fy nghydweithiwr Michael Phillips am sgwrs anffurfiol ar 07794 366 224 neu e-bostiwch

Sut i gwblhau ein harolwg

  • Ewch i agecymru.org.uk/annualsurvey i gwblhau'r arolwg ar lein
  • Ffoniwch 029 2043 1555 am gopi papur o'r arolwg, yn Gymraeg neu Saesneg, a dychwelwch at ein cyfeiriad post am ddim: Age Cymru, FREEPOST RTZG-JHGC-RYJJ, Y Llawr Gwaelod, Tŷ'r Mariners, Age Cymru, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, CAERDYDD CF24 5TD
  • Gallwch hefyd ysgrifennu atom gyda'ch barn gyffredinol drwy ddefnyddio’r cyfeiriad rhadbost uchod.

 Dyddiad cau'r arolwg, ac i holi ynghylch unrhyw wybodaeth arall, yw dydd Gwener 28 Ebrill 2023

 

 

Last updated: Maw 28 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top