Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Argyfwng costau byw yn gorfodi llawer o bobl hŷn i barhau i weithio

Published on 31 Ionawr 2024 03:40 yh

Grŵp o ferched yn edrych ar bapurau

Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig

Wythnos Genedlaethol Gweithwyr Hŷn 20 – 24 Tachwedd 2023

Fe wnaeth y mwyafrif llethol o bobl hŷn a newidiodd eu cynlluniau ar gyfer ymddeol yn ystod y 12 mis diwethaf wneud hynny oherwydd yr argyfwng costau byw, yn ôl pedwerydd arolwg blynyddol Age Cymru, Beth sy'n Bwysig i Chi? 

Canfu'r arolwg, a gwblhawyd gan bron i 1200 o bobl hŷn, fod 78% o'r bobl a newidiodd eu cynlluniau yn dweud na allent fforddio ymddeol a bod eu potiau pensiwn yn lleihau. 

Dywedodd un person wrth yr arolwg eu bod wedi gorfod cael seibiant gyrfa oherwydd cyfrifoldebau gofalu, ac erbyn hyn mae’n rhaid iddyn nhw ail-adeiladu eu cyllid.  Dywedodd person arall eu bod yn mynd yn ôl i weithio ar ôl ymddeol er mwyn talu am ofal meddygol: Mae angen arian ychwanegol arnaf i dalu am lawdriniaeth ar fy nghlun a gofal deintyddol. 

Yn yr un modd, dywedodd rhai eu bod yn bwriadu mynd yn ôl i waith cyflogedig ar ôl ymddeol o'u swydd bresennol oherwydd nid oeddent yn teimlo y gallent fyw ar eu pensiwn yn unig. "Mae pris rhenti mor ddrud, mae’n amhosibl byw ar bensiwn y wladwriaeth heb weithio i ychwanegu tuag at y cyfanswm."

Dywedodd eraill wrthym eu bod am fynd yn ôl i waith cyflogedig er mwyn codi arian ar gyfer prosiectau neu deithiau.  

Roedd y duedd ymhlith pobl hŷn i naill ai aros neu ddychwelyd i'r gwaith hefyd yn cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau cyffredinol sy'n dangos bod 61% o'r ymatebwyr wedi ymddeol, o’i gymharu â 67% y llynedd, tra bod nifer y bobl hŷn sy'n gweithio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser wedi cynyddu o 23% i 36%.

Cefnogaeth i weithwyr hŷn a phobl sy'n chwilio am waith

Mae Age Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned (Cymru) i gefnogi pobl dros 50 oed yn y gweithle a phobl sy'n chwilio am waith trwy seminarau a gynlluniwyd yn arbennig o'r enw gweminarau Adolygiad Canol-Gyrfa. 

Mae'r gweminarau, sy'n rhad ac am ddim i unrhyw un dros 50 oed yng Nghymru, yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau, yn darparu awgrymiadau ymarferol, ac yn cyfeirio at sefydliadau defnyddiol i helpu pobl i weithredu ar gyfer dyfodol mwy cadarnhaol.  Mae'r gweminarau yn ymdrin â gyrfa, gwaith, iechyd a lles, lles ariannol a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.   

Dywedodd Jill Salter Rheolwr Rhaglen Oedran Busnes yn y Gymuned: "Mae’r bobl sy’n mynychu’r gweminarau Adolygiad Canol-Gyrfa yn dweud bod y sesiynau yn ddefnyddiol iawn.  Roeddent yn teimlo'n fwy gwybodus ynghylch ble i gael rhagor o wybodaeth, maen nhw wedi cynyddu eu cymhelliant a gwytnwch i fedru ymdopi ag heriau ac wedi elwa o fwy o hyder er mwyn canolbwyntio a gweithredu."

I gofrestru ar gyfer y gweminarau, e-bostiwch jill.salter@bitc.org.uk, ffoniwch 07793 443893, neu ewch i www.bitcni.org.uk/age-at-work-wales-mid-career-review/. I weld copi o arolwg Age Cymru, ewch i agecymru.org.uk/annualsurvey neu ffoniwch 029 2043 1555.

Diwedd 

Nodiadau i olygyddion

Beth sy'n Bwysig i Chi yw ein pedwerydd arolwg blynyddol a gynhaliwyd gyda phedwar sefydliad pensiynwyr cenedlaethol. Fe'i cwblhawyd gan bron i 1200 o bobl hŷn yn ystod gwanwyn 2023.  Roedd yr arolwg yn ystyried nifer o bynciau gan gynnwys mynediad at ofal sylfaenol a chymdeithasol, trafnidiaeth, tai, yn ogystal â chyflogaeth. 

Cyflwynir y rhaglen Oedran yn y Gwaith mewn partneriaeth ag Age Cymru, a chafodd ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

 

Last updated: Ion 31 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top