Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Cyngor i bobl hŷn am sut i gadw'n ddiogel ac yn iach yn ystod cyfnod o dywydd oer

Published on 06 Chwefror 2023 08:15 yh

Mae tywydd oer yn effeithio ar bobl ledled Cymru, felly mae Age Cymru yma i gynnig cyngor am sut i gadw'n ddiogel ac yn iach yn ystod cyfnod o dywydd oer.

Deallwn fod hwn yn gyfnod heriol iawn yn ariannol, ond rydyn ni’n annog pobl hŷn i flaenoriaethu eu hiechyd personol.  Mae angen sicrhau bod o leiaf un ystafell yn eich cartref yn ddigon cynnes i eistedd ynddo yn gyfforddus. Mae tywydd oer iawn yn cynyddu’r risg o drawiadau ar y galon, strôc, hypothermia, ac afiechydon corfforol a meddyliol eraill.

Os yw pobl yn poeni am dalu eu biliau, dylent ofyn am gyngor i wneud yn siŵr eu bod yn hawlio eu holl fudd-daliadau a'u hawliau.  Does dim cywilydd wrth geisio cefnogaeth; mae angen cefnogaeth ar bawb o bryd i’w gilydd.  Mae gwerth mwy na £200m o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.

Os ydych chi wedi cael eich gwrthod o'r blaen, efallai y bydd yn dal yn werth gwneud cais newydd; wrth i gyfraddau budd-daliadau newid, gall eich cyllid newid hefyd. I wneud hawliad am Gredyd Pensiwn, dylai pobl ffonio llinell hawlio Credyd Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol ar 0800 99 1234 neu ewch i www.gov.uk/pension-credit/how-to-claim.  

Mae yna fuddion yn gysylltiedig â'r gaeaf ar gael i rai pobl hŷn fel y Taliad Tanwydd Gaeaf, Taliad Tywydd Oer, Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes, a Chynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru. Cysylltwch â'ch cyflenwr tanwydd; maent yn gorfod cefnogi cwsmeriaid bregus.

Cefnogi eich hun yn ystod cyfnod o dywydd oer

Byddem yn cynghori pobl i fwyta o leiaf un pryd cynnes y dydd gyda digon o ddiodydd poeth. A phan mae'n mynd yn oer iawn gwisgwch ddigon o haenau cotwm tenau, hyd yn oed pan fyddwch chi dan do.  Symudwch yn gyson drwy fynd am dro neu drwy wneud gwaith tŷ.

Gwnewch yn siŵr bod gennych gwpwrdd bwyd yn llawn bwyd di-ddarfodus, er enghraifft tuniau o gawl, rhag ofn na fyddwch yn medru mynd allan.  A gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud trefniadau i gael unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn sydd yn ail-adrodd.

Mae firysau fel y ffliw a Covid sy'n effeithio ar ein hanadlu’n parhau i fod yn risg, yn arbennig i'r rhai sydd eisoes â chyflyrau iechyd. Os ydych yn iach, a does gennych chi ddim symptomau, nid yw'n rhy hwyr i fynnu eich brechiad ffliw am ddim.  Gallwch hefyd gael pigiad atgyfnerthu Covid os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Os ydych chi'n cael trafferth teithio i’ch meddygfa, yna gofynnwch am y brechlyn ffliw yn eich fferyllfa leol.

A chofiwch y gallwch ofyn am gefnogaeth eich Canolfan Clyd lleol lle gallwch eistedd mewn ystafell gynnes a chael mynediad at fwyd a diodydd poeth rhad neu hyd yn oed am ddim yn ystod y dydd.

Cymdogion Caredig

Meddai Cydlynydd Mentrau Iechyd Age Cymru, Angharad Phillips "Yn ystod y pandemig roedd cymunedau ledled Cymru yn dod at ei gilydd i ddarparu sicrwydd a chefnogaeth i'w perthnasau a'u cymdogion hŷn, ac rydym yn gofyn i chi wneud yr un peth eto.

"Os oes gennych chi ffrind, perthynas neu gymydog hŷn, galwch heibio i weld a allwch chi helpu.  Efallai bod angen clirio dail a rhew o lwybrau eu tai, neu efallai gallwch gynnig mofyn eitemau fel bwyd a meddyginiaethau.

"Ac os oes gennych chi unrhyw bryderon am les person hŷn, rhannwch nhw gydag aelod o'r teulu neu gymydog dibynadwy. Os na allwch ddod o hyd i unrhyw un, cysylltwch â'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol."

Cysylltu â Age Cymru

Os ydych chi eisiau siarad ag un o'n cynghorwyr arbenigol, yn Gymraeg neu Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98. Mae Cyngor Age Cymru ar agor rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. (Codir tâl ar yr un gyfradd â galwad i rif safonol 01 neu 02. Byddant hefyd yn cael eu cynnwys yn awtomatig mewn unrhyw becyn galwadau llinell dir neu ffôn symudol.)

Diwedd.

 

Last updated: Chw 06 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top