Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Datganiad ynglŷn â'r gwahaniaethau mewn rhestrau aros rhwng Cymru a Lloegr Rhaglen Sunday Politics BBC Wales

Published on 12 Mai 2023 12:08 yh

Meddai pennaeth polisi Age Cymru, Heather Ferguson "Rydym yn gwybod bod gwahaniaethau sylweddol wedi bod rhwng Cymru a Lloegr ers nifer o ddegawdau, o ran heriau a chanlyniadau iechyd.

"Rydym hefyd yn gwybod nad yw llawer o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru bob amser yn gysylltiedig â'r gwasanaeth ei hun.  Efallai bod yr heriau yn cael eu hachosi gan faterion cymdeithasol, er enghraifft poblogaeth sy'n heneiddio, a gwaeth stoc tai sy'n medru cael effaith andwyol ar iechyd pobl.

"Ac wrth gwrs, mae tystiolaeth sy'n awgrymu bod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn tueddu i weithio yn yr ardal gwnaethant dderbyn eu hyfforddiant.  Oherwydd bod llai o ganolfannau hyfforddi o'r fath fesul pen o'r boblogaeth, mae'n golygu bod llai o feddygon ar gael i fod yn rhan o’n gwasanaethau iechyd.

"Fodd bynnag, mae llawer y gellir ei wneud er mwyn lleihau effeithiau cyfnodau hir o oedi.  Er enghraifft, gall clinigwyr rhoi cyngor i'w cleifion ar sut i gadw’n iach wrth aros am driniaeth er mwyn helpu atal cyflyrau rhag dirywio.

"Rydym yn poeni y bydd cyflwr meddygol pobl hŷn yn dirywio os byddant yn cael eu gorfodi i aros yn rhy hir am eu triniaeth.  Yn ei dro, gall hyn olygu fod pobl hŷn yn colli eu hunanhyder, ac yn raddol byddant yn stopio gwneud y pethau maent yn mwynhau mewn bywyd. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gael gofalwyr di-dâl, eu partner fel arfer, felly mae unrhyw oedi hir yn effeithio ar iechyd y gofalwr hefyd.

"Yn nhrydydd arolwg blynyddol Age Cymru clywsom gan lawer o bobl hŷn ledled Cymru a oedd yn profi oedi hir cyn cael triniaeth, roedd eu hapwyntiadau yn cael eu canslo dro ar ôl tro, ac weithiau byddai triniaeth yn dod i ben heb unrhyw esboniad. Dywedodd un person wrthym eu bod wedi bod yn aros i weld ymgynghorydd orthopedig ers tair blynedd.

"Byddai pobl hŷn hefyd yn elwa o gyfathrebu cliriach fel eu bod yn gallu gwneud cynlluniau ar gyfer teithio, gofalu, a threfniadau eraill ymhell cyn dyddiad eu hapwyntiadau.

"Yn anffodus, rydym yn clywed am swm cynyddol o bobl hŷn sy'n chwilio am ofal iechyd preifat oherwydd y cyfnodau hir o oedi cyn iddynt dderbyn triniaeth.  Ond gyda'u cynilion yn lleihau'n gyflym mae nifer bellach yn poeni sut maen nhw'n mynd i gael dau ben llinyn ynghyd, yn enwedig gan fod yr argyfwng costau byw presennol yn effeithio ar gynifer o bobl."

 

Last updated: Mai 12 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top