Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Dydd Gŵyl Dewi: Dathlu amrywiaeth ymhlith pobl hŷn yng Nghymru

Published on 23 Chwefror 2023 03:51 yh

Mae Age Cymru yn galw ar newyddiadurwyr, gweithwyr marchnata proffesiynol a gweithwyr recriwtio proffesiynol i ddefnyddio llyfrgell newydd yn llawn delweddau o bobl hŷn go iawn.

 Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni mae Age Cymru yn lansio llyfrgell yn llawn delweddau o bobl hŷn sydd yn byw yng Nghymru.  Bydd newyddiadurwyr a gweithwyr marchnata proffesiynol yn medru mynychu delweddau sydd yn ddarlun ffyddlon o’r genhedlaeth hŷn hon.

Ers nifer o flynyddoedd, mae’r elusen wedi siomi wrth weld pobl hŷn yn cael eu portreadu fel unigolion sydd yn agored i niwed, sydd yn methu cyfrannu at y gymdeithas, ac sydd yn methu mwynhau gweithgareddau o fewn y gymdeithas. Ym aml, lluniau o ddwylo crebachlyd neu unigolyn yn eistedd yn oddefol mewn cadair sydd yn cael eu defnyddio i symboleiddio pobl hŷn.

Er gwaethaf y portreadau hyn, mae Age Cymru yn cyfathrebu gyda phobl hŷn sydd yn cyfrannu at eu gweithle, sydd yn darparu gwerth miliynnau o bunoedd o ofal ar gyfer anwyliaid, a sydd yn cyflawni canran sylweddol o waith gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r llyfrgell yn cynnwys mwy na 50 delwedd o bobl hŷn.  Yn eu plith mae yna unigolyn â phen croen yn gyrru sgwter, ffermwr sydd yn cadw defaid ar fynydd, pobl sydd yn nofio yng nghanol byd natur, perchenogion rhandiroedd a mwy o bobl o bob math.

Hoffai’r elusen annog newyddiadurwyr a gweithwyr marchnata proffesiynol i ystyried defnyddio’r delweddau yn eu gwaith.  Mae’r delweddau yn y llyfrgell ar gael am ddim i’w defnyddio mewn papurau newydd, cylchgronau, cylchlythyrau a chyfryngau cymdeithasol.  Gobaith yr elusen yw bydd y delweddau yn helpu i ddarparu straeon mwy gafaelgar am fywydau pobl hŷn yng Nghymru.

Meddai Kelly Barr, cydlynydd y prosiect ar gyfer Age Cymru: “Mae hwn yn gasgliad grymus o ffotograffau sydd yn chwalu rhai o’r stereoteipiau o bobl hŷn.  Mae’r ffotograffau yn dangos ehangder profiadau a diddordebau pobl hŷn yng Nghymru.”

Nodiadau am y tri ffotograff o’r chwith i’r dde:

Mae Chrissy wedi goroesi canser, dwy berthynas gamdriniol, a cholled ei phartner yn 2019.  Mae Chrissy’n dioddef o ffibromyalgia a polymyalgia ond meddai, ‘Rydw i’n nofio yn y môr bob dydd ac mae hynny’n fy helpu i deimlo’n fyw ac yn gryf.  Mae’n fy ngorfodi i adael fy nhŷ bob dydd.  Rydw i’n aml yn croesawu aelodau newydd i’m grŵp nofio lleol, Bluetits Bae Colwyn.  Rydw i hyd yn oed yn galw fy hun yn fôr forwyn!  Rydw i’n dweud erioed y byddaf yn mynd yn hŷn yn ddigywilydd.”

Mae Roddy o Grangetown yng Nghaerdydd.  Mae ganddo ben croen ac mae’n wrth-ffasgydd.  Mae Roddy wrth ei fodd ar gerddoriaeth o hyd, ac mae’n teithio o gwmpas y byd gyda’r band Oi!, The Oppressed.  Meddai Roddy, “Dim ond rhif yw oedran.  Ydych chi eisiau mwynhau bywyd o hyd?  Neu oes well gennych chi dderbyn bywyd yn llawn diflastod?  Dwi’n teimlo trueni dros y bobl sydd yn derbyn y diflastod”.

Mae Linette a Sheila yn aelodau gweithgar o Randir Cymunedol STARGarlott yn Y Sblot, Caerdydd.  Maent yn dweud fod eu bywydau prysur yn eu cadw’n iach, a dydyn nhw ddim yn hoffi gweld pobl hŷn yn cael eu portreadu fel unigolion goddefol sydd yn haeddu trueni.  Meddai Linette, “Dydyn ni ddim yn bobl fel yna, ac nid yw nifer o bobl hŷn eraill.  Mae’r darlun roedd gennym o berson hŷn tua 30 mlynedd yn ôl wedi newid yn gyfan gwbl”.  

I fynychu’r llyfrgell, ewch i www.agecymru.org.uk/thisisolder

 

Last updated: Chw 23 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top