Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Elusen yn annog pobl hŷn i hawlio £200 wrth Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf cyn iddo ddod i ben ar ddiwedd y mis.

Published on 20 Chwefror 2023 11:32 yb

Cynllun gan Lywodraeth Cymru i gefnogi aelwydydd incwm isel gyda chostau tanwydd.

Mae Age Cymru yn annog pobl hŷn cymwys i hawlio £200 gan Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf cyn iddo ddod i ben ar 28 Chwefror 2023.

Cyflwynwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022 i gefnogi aelwydydd incwm isel yn ystod yr argyfwng costau byw.

I wneud cais, mae angen i bobl gwblhau a chyflwyno ffurflen gais wrth eu hawdurdod lleol cyn y dyddiad cau.  Mae’r ffurflenni ar gael ar wefan eich awdurdod lleol.

Os nad ydych yn hyderus wrth wneud cais drwy’r wefan, cysylltwch gyda’ch awdurdod lleol i ofyn pa gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael.  Holwch os oes ffyrdd gwahanol o wneud cais.

Mae’r cynllun yn ychwanegol i’r Taliad Tanwydd Gaeaf a thaliadau eraill sydd yn cael eu darparu gan Lywodraeth y DU.  Mae’n agored i aelwydydd ble mae ymgeisydd neu bartner yn derbyn budd-dal fel Credyd Pensiwn, Lwfans Byw i’r Anabl, Lwfans Gweini, Taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog ac eraill. 

Os nad yw deiliad tŷ, neu bartner sydd yn atebol am gostau tanwydd, yn derbyn budd-daliadau cymwys, mae’n bosib fydd y deiliad tŷ yn gymwys i dderbyn taliad os oes person cymwys yn byw gyda nhw.

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru Victoria Lloyd: “Rydw i’n annog pob person hŷn sydd yn byw yng Nghymru ac yn gymwys i wneud cais wrth Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf i wneud hynny cyn diwedd y mis.

“Mae’r cynllun hwn yn cydnabod bod pobl yn profi costau ychwanegol sylweddol eleni.  Peidiwch ag ofni gofyn am gefnogaeth ychwanegol gan eich awdurdod lleol wrth wneud cais os nad ydych chi’n hyderus wrth ddefnyddio eu gwefan.”

diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd ble mae ymgeisydd, neu eu partner, yn derbyn un o’r budd-daliadau cymwys canlynol ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Cymhorthdal yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-daliadau Cyfrannol
  • Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
  • Taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Os nad yw deiliad tŷ, neu bartner sydd yn atebol am gostau tanwydd, yn derbyn budd-daliadau cymwys, mae’n bosib fydd y deiliad tŷ yn gymwys i dderbyn taliad os oes person cymwys yn byw gyda nhw.

 

Mae’n rhaid i berson cymwys ddiwallu’r canlynol i gyd:

  • preswylio yng nghartref y deiliad tŷ fel eu prif gartref
  • maent yn blentyn dibynnol neu’n oedolyn arall sydd yn byw gyda’r deiliad tŷ, neu eu partner
  • maent yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Mae hefyd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfrifol am dalu biliau ynni’r cartref.

 

Last updated: Chw 20 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top