Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Elusen yn galw am sicrwydd bod gweithgareddau artistig a diwylliannol ar gael ym mhob cartref gofal yng Nghymru

Published on 30 Tachwedd 2023 07:35 yh

Mae gan bawb sy'n ymwneud â darparu a chefnogi gofal preswyl rôl i'w chwarae wrth sicrhau bod preswylwyr yn medru cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig a chreadigol.

Dylai preswylwyr ym mhob cartref gofal yng Nghymru allu cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig a chreadigol, medd Age Cymru.

Meddai’r elusen fod gan bawb sy'n ymwneud â darparu a chefnogi gofal preswyl, o grwpiau creadigol lleol i'r comisiynwyr gofal, ac o reoleiddwyr i'r cartrefi gofal eu hunain, gyfrifoldeb i sicrhau bod preswylwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig a chreadigol.  Mae'n ychwanegu y dylai bywydau creadigol a diwylliannol preswylwyr fod yn rhan allweddol o sgyrsiau pan fydd pobl hŷn yn symud i ofal preswyl.

Mae'r elusen yn galw yn benodol ar grwpiau creadigol lleol i weld cartrefi gofal fel rhan o'u cymuned ac i ymgysylltu gyda nhw er mwyn cynnwys preswylwyr yn eu gweithgareddau. Ac mae'n galw ar y cartrefi gofal i siarad â phreswylwyr am eu diddordebau cyn iddynt symud i gartref gofal.

Mae'r elusen yn ychwanegu y dylai comisiynwyr a rheoleiddwyr gofal ganolbwyntio ar gyfleoedd creadigol wrth ymgysylltu â chartrefi gofal. Mae'r galwadau hyn a galwadau eraill yn cael eu gwneud mewn papur polisi newydd gan Age Cymru, Y Celfyddydau Mewn Cartrefi Gofal, sydd wedi'i lansio fel rhan o Ddiwrnod Cenedlaethol y Celfyddydau mewn Cartrefi Gofal: www.agecymru.org.uk/artsincarehomes

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Age Cymru hefyd yn cyflwyno prosiect sy'n datblygu gweithgareddau creadigol gyda phreswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru sy'n cynnwys gwirfoddolwyr sy'n ymgysylltu â phreswylwyr. Mae'r prosiect hefyd yn gweithio gyda chartrefi gofal i gasglu a rhannu arfer da wrth gefnogi pobl sy’n symud i gartref gofal. 

Meddai Heather Ferguson, Pennaeth Polisi a Phrosiectau Age Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol yn medru helpu i wella sgiliau cyfathrebu, hunan-barch, y gallu i fwynhau bywyd, y cof, a sgiliau meddwl yn greadigol. 

"Mae ymchwil yn dangos yr effeithiau cadarnhaol y gall cymryd rhan yn y celfyddydau creadigol eu cael ar breswylwyr cartrefi gofal, gan wella eu hiechyd corfforol a meddyliol.  Ac nid yw'r buddion hyn yn gyfyngedig i breswylwyr yn unig. Mae yna hefyd effeithiau cadarnhaol ar les staff cartrefi gofal, mae eu perthynas â phreswylwyr yn gwella, ac felly mae ansawdd cyffredinol gofal o fewn y cartref yn gwella."

 

Last updated: Tach 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top