Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Elusen yn tynnu sylw at fanteision cadw eich hun a'ch cartref yn gynnes y gaeaf hwn

Published on 13 Tachwedd 2023 03:36 yh

Mae cynhesrwydd yn eich cadw'n iach, medd Age Cymru

  Mae Age Cymru yn lansio ei ymgyrch Lles Drwy Wres y gaeaf hwn.  Eu nod yw tynnu sylw at y ffyrdd y gall pobl gadw'n gynnes er mwyn aros yn fwy diogel ac yn iach y gaeaf hwn.  

  Mae'r elusen yn dweud bod cynhesrwydd yn angen sylfaenol, fel bwyd, dŵr a gorffwys.   

  Mae'r ymgyrch yn seiliedig ar Ganllaw’r Gaeaf Age Cymru,  sy’n ystyried beth allwch chi ei wneud er mwyn eich paratoi chi a’ch cartref ar gyfer y gaeaf, yn ogystal â ble i fynd er mwyn cael mwy o wybodaeth a chefnogaeth.  

  Mae'r canllaw yn darparu argymhellion ar gyfer trefnu gwiriadau diogelwch ar gyfer eich system wresogi, a sut i gael gafael ar gymorth ariannol er mwyn eich helpu i dalu am gostau gwresogi.  Mae hefyd yn tynnu sylw at awgrymiadau ymarferol am sut i gadw'r gwres i mewn a chadw’r oerfel allan o'ch cartref.  

  Mae Canllaw’r Gaeaf yn archwilio sut i gadw'ch hun yn gynnes tu mewn a thu allan i’ch cartref, er enghraifft, wrth fwyta'n dda, symud yn rheolaidd, a gwisgo sawl haen o ddillad. Mae hefyd yn annog pobl i drefnu brechiad ffliw a phigiadau atgyfnerthu Covid-19 cyn gynted â phosibl.  

  Meddai Angharad Phillips, Swyddog Mentrau Iechyd Age Cymru: "Rydym am i bobl gydnabod bod cynhesrwydd, lles a diogelwch yn hynod o bwysig yr adeg hon o'r flwyddyn.   

"Rydym yn gobeithio y bydd ein hymgyrch a'n canllawiau a'n taflenni ffeithiau ategol yn galluogi pobl i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn cynllunio ar gyfer gaeaf cynnes a diogel.

"Bydd llawer o fentrau hefyd yn digwydd ar lefel leol er mwyn helpu pobl, felly cysylltwch â ni a cheisiwch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch."  

I gael mwy o wybodaeth, ewch  i www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth neu ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 (codir tâl lleol) rhwng dydd Llun a dydd Gwener rhwng 9am a 4pm. Gallwch hefyd e-bostio: advice@agecymru.org.uk.  

 

Last updated: Tach 13 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top