Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Elusen yn tynnu sylw at sut mae cadw eich hun a'ch cartref yn gynnes y gaeaf hwn yn medru helpu eich iechyd

Published on 30 Tachwedd 2023 08:19 yh

Mae cynhesrwydd yn eich cadw'n iach, medd Age Cymru

Mae Age Cymru yn lansio ei ymgyrch Lles drwy Wres i dynnu sylw at y ffyrdd y gall pobl gadw'n gynnes er mwyn aros yn iach ac yn fwy diogel y gaeaf hwn. 

Mae'r elusen yn dweud bod cynhesrwydd yn angen sylfaenol i ni gyd ochr yn ochr â bwyd, dŵr a gorffwys, er mwyn i ni fedru goroesi.  

Mae'r ymgyrch yn seiliedig ar eu canllaw newydd, Canllaw’r Gaeaf, sy'n archwilio beth allwch chi ei wneud i gael eich hun a'ch cartref yn barod ar gyfer y gaeaf, yn ogystal â ble i fynd am fwy o wybodaeth a chefnogaeth. 

Mae'r canllaw yn darparu argymhellion ar drefnu gwiriadau diogelwch ar eich system wresogi, a sut i gael gafael ar gymorth ariannol i helpu i dalu am gostau gwresogi.  Mae hefyd yn tynnu sylw at awgrymiadau ymarferol ar sut i gadw'r gwres i mewn a'r oerfel allan o'ch cartref. 

Mae Canllaw’r Gaeaf yn archwilio sut gallwch chi gadw'ch hun yn gynnes gartref a thu allan trwy, er enghraifft, bwyta'n dda, symud yn rheolaidd, a gwisgo sawl haen o ddillad. Mae hefyd yn annog pobl i drefnu brechiad ffliw a phigiadau atgyfnerthu Covid-19 cyn gynted â phosibl. 

Meddai Angharad Phillips, Swyddog Mentrau Iechyd Age Cymru: "Rydym am i bobl gydnabod bod cynhesrwydd, lles a diogelwch yn hynod o bwysig yr adeg hon o'r flwyddyn.  

"Rydym yn gobeithio y bydd ein hymgyrch a'n canllawiau a'n taflenni ffeithiau ategol yn galluogi pobl i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gynllunio ar gyfer gaeaf cynnes a diogel.

"Bydd llawer o fentrau hefyd yn digwydd ar lefel leol i helpu pobl, felly cysylltwch â ni a cheisiwch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch." 

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth neu ffoniwch Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 (codir tâl lleol) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm. Gallwch hefyd anfon e-bost at: advice@agecymru.org.uk. 

 

Last updated: Tach 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top