Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Er bod cyfnod y Nadolig yn gwneud i lawer o bobl deimlo’n unig, i nifer mae unigrwydd yn effeithio arnynt drwy gydol y flwyddyn.

Published on 26 Ionawr 2024 10:16 yb

Gan Victoria Lloyd, Prif Weithredwr, Age Cymru

Yr wythnos hon, mae Partneriaeth Age Cymru wedi rhannu gwaith ymchwil sy’n pwysleisio pa mor unig ac ynysig mae nifer o bobl hŷn ledled Cymru’n teimlo, yn enwedig yn ystod cyfnod y Nadolig.

Yn ôl ein gwaith ymchwil, mae tua 85,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru’n bwriadu bwyta cinio Nadolig ar eu pen eu hun.

Mae mwy na 112,000 o bobl hŷn, tua un ymhob chwech, yn dweud mai diwrnod Nadolig yw diwrnod anoddaf y flwyddyn.  Mae 18% o bobl yn dymuno cael cwmni dros gyfnod y Nadolig.

Mae unigrwydd yn her i nifer o bobl hŷn drwy gydol y flwyddyn.

Ond mae unigrwydd yn effeithio ar bobl drwy’r flwyddyn, ac mae’r achosion yn gymhleth.  Efallai bod perthynas agos wedi marw, neu mae salwch yn cadw pobl yn gaeth i’r tŷ, neu mae teulu neu ffrindiau wedi symud i ffwrdd.

Yn anffodus, mae pethau y tu hwnt i’n rheolaeth ni’n golygu bod effeithiau unigrwydd wedi dwysáu.  Mae’n mynd yn anoddach i gael mynediad at ofal iechyd sy’n golygu bod rhai pobl hŷn yn ei chael hi’n anodd gadael eu cartrefi oherwydd bod eu hiechyd yn dirywio heb angen.

Os yw pobl yn ddigon ffodus i gael y driniaeth sydd ei angen arnynt, mae nifer o bobl hŷn yn gorfod aros am amser hir er mwyn cael asesiad gofal.  Mae hyn yn golygu bod rhai pobl yn gorfod aros yn yr ysbyty am gyfnodau hir, ac mae eraill yn dychwelyd adref heb gefnogaeth.

Mae toriadau i wasanaethau bws wedi lleihau’r cyfleoedd sydd gan bobl hŷn i gymdeithasu.  Mae’r argyfwng costau byw wedi gorfodi nifer o bobl hŷn i leihau eu gweithgareddau cymdeithasol wrth iddynt geisio ymdopi ar incwm sefydlog isel.  Mae’r pandemig hefyd yn golygu bod nifer yn ei chael hi’n anodd dod yn rhan o’r gymuned unwaith eto.

Felly, beth yw’r ateb?

Mae galw aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus.  Hoffwn weld pobl hŷn yn cael eu cefnogi wrth iddynt aros am driniaeth, drwy dderbyn cyngor ar faterion fel rheoli poen a gwell ansawdd bywyd.  Rydyn ni’n cefnogi mesurau sy’n cefnogi mwy o bobl i ymuno â’r sector ofal er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn cefnogaeth angenrheidiol.

Rydyn ni’n annog pobl hŷn i fynnu eu hawliau er mwyn derbyn cefnogaeth gyda chostau cynyddol.  Mae dros £200m o gredyd pensiwn yn mynd heb ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn, felly rydyn ni’n annog pobl i wneud cais, hyd yn oed os ydyn nhw wedi bod yn aflwyddiannus yn y gorffennol.

Hoffwn hefyd petai Llywodraeth San Steffan yn cefnogi pobl hŷn gyda’u biliau ynni, er mwyn iddynt fedru cynllunio’n hyderus ar gyfer y misoedd nesaf.

Cymdogion da

Mae’n bosib i ni gyd fod yn gymdogion da.  Mae arwyddion bach o gyfeillgarwch, codi llaw, gwenu, cerdyn Nadolig, yn medru gwneud gwahaniaeth mawr.  Gallwch chi wahodd cymydog hŷn i gael cwpaned o de neu mins-pei gyda chi.  Gallwch chi hyd yn oed rannu eich rhif ffôn er mwyn bod gan eich cymydog gefnogaeth mewn argyfwng.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 0300 303 44 98 (cyfradd leol) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, neu ewch i www.agecymru.org.uk.

Gallwch chi hefyd gefnogi ein gwaith drwy wneud rhodd.  Ewch i www.agecymru.org.uk/christmas neu ffoniwch 0300 303 44 98.

diwedd

 

Last updated: Ion 26 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top