Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gall plant chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl hŷn i leihau’r perygl o gwympo, medd y Tasglu Cenedlaethol

Published on 30 Tachwedd 2023 07:31 yh

Gall pobl ifanc chwarae rhan hanfodol wrth helpu’r bobl hŷn yn eu bywydau i leihau'r perygl o gwympo, yn ôl Tasglu Atal Cwympiadau Cenedlaethol Cymru.

Bydd yna lansiad yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin yng Ngorseinon, Abertawe, fel rhan o wythnos genedlaethol Ymwybyddiaeth Atal Cwympiadau. Mae'r Tasglu yn annog plant ledled Cymru i helpu pobl hŷn i sylwi ar beryglon o amgylch y cartref, er enghraifft gwifrau ar y llawr, carpedi sydd wedi torri, goleuadau gwael, ac eitemau sydd wedi'u gadael ar y grisiau, gan ddefnyddio pecyn sydd wedi cael ei greu yn arbennig er mwyn addysgu plant am y pwnc.   

Bydd y pecyn, sydd wedi'i gynhyrchu ar y cyd â Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg, hefyd yn helpu plant i ddeall pwysigrwydd cynnal cryfder corfforol a chydbwysedd er mwyn helpu i atal pobl hŷn rhag cwympo.

Bydd y Tasglu hefyd yn gwahodd ysgolion cynradd ledled Cymru i ymweld â gwefan ryngweithiol sy'n cynnwys 'golygfa ddigwyddiad' ble mae rhywun wedi cwympo.

Yn ôl GIG Cymru mae cwympo yn medru achosi anaf yn hawdd.  Meddai’r GIG y bydd tua un o bob tri oedolyn dros 65 oed, a hanner y bobl dros 80 oed, yn cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mae'r Tasglu, a ffurfiwyd o gynghrair o sefydliadau'r trydydd sector fel Age Cymru, Age Connects Cymru, a Gofal a Thrwsio Cymru, ochr yn ochr â chynrychiolwyr gwasanaethau ymateb brys, staff y GIG o wahanol arbenigeddau ledled Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, yn dweud er nad yw'r rhan fwyaf o gwympiadau yn achosi anaf difrifol, yn aml mae cwympo yn medru arwain at ddirywiad iechyd unigolyn.  

Bywyd ar ôl cwympo

Mae perygl unwaith y bydd rhywun wedi dioddef cwymp y byddant yn colli eu hunanhyder ac yn ei chael hi'n anoddach gadael eu cartref. Mae'r Tasglu yn annog unrhyw un yn y sefyllfa hon i siarad â ffrind, perthynas neu weithiwr iechyd proffesiynol dibynadwy i drafod eu pryderon a dod o hyd i ffordd o ailadeiladu hunanhyder a dod yn fwy gwydn.

Dywedodd Heather Ferguson, Cadeirydd Tasglu Atal Cwympiadau Cenedlaethol Cymru, "Er bod y rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol o'r effaith y gall cwymp ei chael ar berson hŷn, mae llai ohonom yn ymwybodol o'r camau syml niferus y gellir eu cymryd i wneud pobl hŷn yn fwy gwydn.

"Gyda chymorth plant, rydyn ni eisiau lleihau’r nifer o bethau sy’n medru achosi pobl i gwympo yng nghartrefi pobl hŷn. Rydyn ni hefyd eisiau tynnu sylw at ffyrdd y gall pobl helpu eu hun.

"Ond efallai yn bwysicaf oll, rydym am rymuso pobl hŷn sydd yn ofni cwympo, neu sydd eisoes wedi cwympo.  Rydyn ni eisiau bod ganddyn nhw’r hyder i siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol, neu ffrind neu berthynas dibynadwy."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rwy'n croesawu'r gwaith y mae'r Tasglu Cwympiadau Cenedlaethol yn ei wneud i ddod â phobl hŷn ac iau ynghyd i rannu eu profiadau a sefydlu perthnasau cefnogol. 

 "Mae hyn yn dangos bod egwyddorion ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar waith a gobeithio bydd y gwaith yn helpu i gadw pobl hŷn yn heini, a gwella lles emosiynol yr unigolion sy'n cymryd rhan.

"Hoffwn ddiolch i'r tasglu, Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru ac Age Connects Wales, am eu gwaith i rymuso’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel."

I gael rhagor o wybodaeth am becyn adnoddau atal cwympiadau, ewch i www.agecymru.org.uk/falls neu ffoniwch 029 2043 1555.

 

Last updated: Tach 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top