Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Gŵyl Gwanwyn 2023: Dathlu creadigedd byd natur, a natur creadigedd ymhlith pobl hŷn

Published on 26 Mai 2023 09:53 yb

Gŵyl genedlaethol yw Gwanwyn sy'n cael ei chynnal ledled Cymru drwy gydol mis Mai bob blwyddyn, sy'n arddangos creadigedd ymhlith pobl hŷn. Ers 2007, mae'r ŵyl wedi gweithio gydag artistiaid a sefydliadau o bob maint i hyrwyddo ystod eang o weithgareddau artistig a chreadigol, o stand-yp i wnïo, ac o Bollywood i glybiau llyfrau.

Mae'r ŵyl yn darparu cyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol, naill ai fel ymarferwyr, trefnwyr neu fel aelodau o'r gynulleidfa. Mae hefyd yn helpu pobl hŷn i gydnabod y manteision y gall bod yn greadigol eu cynnig i'w hiechyd a'u lles.

Thema'r ŵyl eleni yw Natur. I lawer ohonom, mae byw gyda'r pandemig yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi ein helpu i werthfawrogi'r byd naturiol o'n cwmpas wrth i ni fynd am dro bob dydd, a chwrdd yn gymdeithasol y tu allan. Cydnabyddir yn eang hefyd fod bod yng nghanol byd natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles corfforol a meddyliol.

Meddai Kelly Barr, cydlynydd yr ŵyl, "Rydym am ddathlu sut mae natur yn ysbrydoli creadigrwydd nid yn unig yn yr ardd a'r gegin ond ym mhob rhan o'n bywydau, o ddylunio gerddi i dyfu pig y crëyr, a grilio ein cynnyrch ein hunain, yn ogystal â gweithgareddau creadigol mwy traddodiadol.

"Rhan o nod Gwanwyn yw herio stereoteipiau o heneiddio a phobl hŷn a thynnu sylw at weithgareddau, digwyddiadau, artistiaid a grwpiau sy'n cynrychioli amrywiaeth profiadau pobl hŷn ledled Cymru."

I gael y newyddion diweddaraf a darganfod sut y gallwch gymryd rhan yng Ngŵyl Gwanwyn, ymunwch â'n rhestr e-bost. E-bostiwch gwanwyn@agecymru.org.uk, ffoniwch 029 2043 1576 neu ewch i www.agecymru.org.uk/gwanwyn.

Rhai o'r prif ddigwyddiadau yn ystod 2023

Corau er daioni, trwy gydol mis Mai

Mae Corau er Daioni yn rhwydwaith o gorau lles cymunedol sy'n bodoli i hyrwyddo pwysigrwydd a manteision canu cymunedol, nid yn unig ar gyfer lles corfforol a meddyliol unigolyn, ond hefyd sut y gall corau uno pobl a'u galluogi i gyfrannu at eu cymunedau lleol.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.choirsforgood.com/book-a-session,  e-bostiwch hello@choirsforgood.com, neu ffoniwch 07897 000724.

Corau er daioni

Mostyn: Document / Dogfennu, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn drwy gydol mis Mai

Mae Document / Dogfennu yn dwyn ynghyd ddetholiad o artistiaid a gwneuthurwyr crefftau o Gymru a thu hwnt.  Yn eu gwaith, maent yn cofnodi, myfyrio ac ymateb i’w hamgylchedd, y byd o’u cwmpas a diwylliant poblogaidd. 

Maent yn defnyddio ysgrifen, symbolau ac eiconau i wneud marciau a phatrymau, a ffyrdd creadigol o ddefnyddio deunyddiau ac adnoddau dychmygol.  Mae pob darn yn adlewyrchu'r artist wnaeth greu’r gwaith.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mostyn Cymru | Wales ar 01492 879201, ewch i mostyn .org, neu e-bostiwch post@mostyn.org.

Oriel Bevan Jones Gallery, Caerfyrddin: Nigel Mason drwy'r Gwydr, o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn drwy gydol mis Mai

Casgliad syfrdanol o wydr wedi'i doddi a'i blygu gan Nigel Mason. Mae Nigel yn cael ei ysbrydoli gan y patrymau naturiol o fewn byd natur, yn enwedig symudiad y môr a'r siapiau a'r gweadau anhygoel a grëwyd. Meddai Nigel "Yn ogystal â bod yn artist gwydr, rydw i hefyd yn gerddor sy'n chwarae cerddoriaeth werin a cherddoriaeth y byd ar amrywiaeth o offerynnau. Rwy'n teimlo bod creu gwydr yn therapiwtig iawn ac yn ffordd wych o ymlacio."


Am fwy o wybodaeth anfonwch neges e-bost eiryl@acgc.co.uk,  ffoniwch 01267 243815, neu ewch i www.orielbevanjonesgallery.co.uk

#CrowdCymru – Ar-lein, drwy gydol mis Mai

Mae #CrowdCymru yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac yn cael ei gynnal ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
 
Mae'n brosiect peilot gwirfoddol yn ymwneud ag archifau digidol, mae popeth y mae eu gwirfoddolwyr yn ei wneud ar-lein ar blatfform dwyieithog a digidol, torfol. Mae'r platfform hwn, a sefydlwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn caniatáu i wirfoddolwyr o unrhyw le yn y byd (os oes ganddynt fynediad i’r we / dyfais ar-lein) i weithio ar y casgliadau digidol y mae partneriaid y prosiect yn eu darparu. 

Gall cyfranogwyr drawsgrifio dogfennau neu dagio ffotograffau i ni i gyd o gysur eu cartrefi eu hun.   Mae gan wasanaethau archifau ledled Cymru filiynau o gofnodion na ellir eu hadfer, ond dim ond ychydig iawn sydd wedi'u catalogio ac felly mae’n anodd eu hadnabod a dod o hyd iddynt.

Bydd y prosiect hwn yn harneisio gwybodaeth unigolion mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt i gyfoethogi ein treftadaeth gyfunol er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol - yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.   

Am fwy o wybodaeth anfonwch neges e-bost at jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk,  ffoniwch 01495 742450, neu ewch i www.gwentarchives.gov.uk/ên/partnership-and-projects/crowdcymru/

 

 

Last updated: Mai 26 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top