Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

I’w rannu ar unwaith Rhyddhau pobl hŷn o'r ysbyty heb becynnau gofal

Published on 23 Ionawr 2023 09:36 yh

Rydym yn deall bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd.  Mae’n heriol dros ben i gydbwyso anghenion nifer fawr o gleifion sydd angen gofal brys ac anghenion y cleifion sydd yn yr ysbyty nad ydynt yn gallu dychwelyd adref oherwydd nad oes pecynnau gofal ar gael.

Rydym yn cydymdeimlo â staff yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwneud penderfyniadau anodd o dan bwysau eithafol.  Fodd bynnag, erbyn hyn mae yna lawer o gleifion hŷn, teuluoedd a gofalwyr ledled Cymru sy'n wynebu senarios dychrynllyd.

Yn Age Cymru rydym eisoes yn derbyn galwadau gan bobl sy'n cael eu heffeithio gan y cyngor newydd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd unigolyn mewn un achos iddi gael gwybod gan yr ysbyty fod tacsi wedi ei drefnu, ac y dylai hi fod ar gael i gwrdd â'i mam pan gyrhaeddodd adref.

Dywedodd un arall bod yr ysbyty wedi dweud wrthi y byddai cleifion yn cael eu rhyddhau pun ai eu bod yn cytuno ai peidio.  Mewn rhai sefyllfaoedd o’r fath nid oedd pecyn gofal wedi cael ei drefnu. 

Meddai Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd "Mae pobl hŷn yn defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn aml, felly bydd y newid hwn yn effeithio'n anghymesur arnyn nhw. Rydym yn hynod o bryderus bod pobl mewn perygl heb y gofal a’r cymorth cywir.  Gall eu hiechyd ddirywio ac efallai bydd yn rhaid iddynt fynd yn ôl i’r ysbyty.  Nid yw’r sefyllfa hynny o fudd i heb, gan gynnwys y claf.

"Rydym hefyd yn pryderu'n fawr am yr effaith ar ofalwyr di-dâl a fydd yn gorfod gofalu am anwylyd heb gymorth na chynlluniau priodol.  Mae’n bosib fydd y sefyllfa yn achosi gormod o straen, gan effeithio’n wael ar eu hiechyd. Yn y pen draw gall hyn olygu fod yn rhaid i’r claf fynd yn ôl i’r ysbyty.”

Pan mae unigolyn yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb becyn gofal mae'n hanfodol eu bod yn ddiogel a bod prosesau priodol yn cael eu trefnu. Yn ogystal, mae'n rhaid cyfathrebu mewn ffordd glir a sensitif â chleifion, teuluoedd a gofalwyr.  Mae angen bod gan bobl wybodaeth a chefnogaeth angenrheidiol, er mwyn eu bod yn gwybod ble i droi oes angen help arnyn nhw."

Diwedd

 

Last updated: Ion 23 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top