Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Mae cwmnïau rhwydwaith ynni ac elusennau blaenllaw yn dod at ei gilydd i gefnogi pobl hŷn

Published on 30 Mai 2023 07:50 yb

Pobl hŷn sy’n dioddef tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o ddioddef tlodi tanwydd yw ffocws partneriaeth gwerth £1 miliwn a lansiwyd gan gwmnïau seilwaith nwy'r DU gyda thair elusen genedlaethol.

Mae Age Cymru, Age Scotland ac Age UK wedi ymuno er mwyn cydweithio gyda thîm sy'n cynnwys SGN, yn ogystal â'r Rhwydweithiau Dosbarthu Nwy eraill (GDNs), Wales & West Utilities a Northern Gas Networks.

Bydd yr ymgyrch yn ceisio sicrhau bod pobl hŷn yn y DU yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sy'n helpu i gynyddu incwm cartrefi, gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth ar sut i ddefnyddio ynni’n ddiogel ac yn effeithlon gartref.

Mae biliau ynni cynyddol dros y 12 mis diwethaf wedi arwain at fwy o bobl yn teimlo'n bryderus am eu gallu i gadw'n gynnes, yn ddiogel ac yn iach gartref.

Felly, mae'r pedwar GDN yn helpu pob elusen yn eu maes gydag adnoddau, gan gynnwys cyllid ar gyfer Cynghorwyr Budd-daliadau, a fydd yn helpu pobl hŷn i gael mynediad at y budd-daliadau a'r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, gan gynyddu incwm eu haelwyd o hyd at £2,000 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Mae cadw mewn cysylltiad ag ynni yn hynod bwysig i bobl hŷn, ac mae llawer ohonynt yn dibynnu ar offer meddygol hanfodol fel peiriannau dialysis i reoli cyflyrau iechyd tymor hir. Mae'r cyllid, a ddarparwyd trwy'r Lwfans Bregusrwydd a Charbon Monocsid gan reoleiddiwr y diwydiant ynni Ofgem, hefyd yn caniatáu i'r elusennau helpu pobl hŷn i ymuno â'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth - gan sicrhau y byddant yn derbyn cymorth ychwanegol os ydynt byth mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt gyflenwad nwy, dŵr neu drydan.

Dywedodd Kerry Potter, Rheolwr Effaith Gymdeithasol a Bregusrwydd SGN: "Mae gofalu am ein cwsmeriaid bregus yn hynod o bwysig i ni yn SGN, felly rwy'n falch iawn ein bod wedi lansio'r bartneriaeth effeithiol hon gydag elusennau pobl hŷn mwyaf blaenllaw'r DU. Rydym yn deall nad yw llawer o bobl hŷn yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau hanfodol y cartref, a dyna pam rydyn ni i gyd yn gweithio i gyrraedd yr un nod i'w helpu i gynnal cartref diogel a chynnes, trwy fynychu’r gefnogaeth a'r wybodaeth gywir."

Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd: "Rydym yn ddiolchgar iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â Wales and West Utilities i gyrraedd cwsmeriaid hŷn bregus ledled Cymru ar adeg pan rydym yn gwybod bod miloedd o bobl yn cael trafferth gyda chostau cynyddol. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, cafodd yr elusen 73,728 ymweliad â'n tudalennau cyngor ar fudd-daliadau yn ogystal â 4,500 o alwadau ar fudd-daliadau’n unig i'n llinell gyngor, gan ddangos pa mor bwysig yw mater cymorth ariannol i bobl hŷn.

"Dydy rhai pobl ddim yn hawlio oherwydd efallai eu bod nhw'n meddwl nad ydyn nhw'n gymwys, efallai oherwydd eu bod nhw'n berchen ar eu cartref eu hunain neu oherwydd bod ganddyn nhw gynilion. Mae rhai yn cael eu digalonni gan y broses ymgeisio, neu nid ydynt yn sylweddoli'r ystod o gymorth sydd ar gael iddynt fel person hŷn. Ac efallai y bydd eraill yn teimlo eu bod yn ymdopi neu dydyn nhw ddim eisiau cael eu hystyried fel rhywun sydd angen hawlio.

"Bydd y bartneriaeth hon mor bwysig wrth ein helpu i gyrraedd mwy o bobl hŷn a darparu'r gefnogaeth hanfodol sydd ei hangen arnynt yn ystod cyfnod mor anodd."

Dywedodd Hannorah Lee, Cyfarwyddwr Partneriaethau Age UK: "Roedd y gaeaf diwethaf hwn yn un o'r rhai anoddaf y bydd llawer o bobl hŷn erioed wedi'i brofi. Ym mis Ionawr roedd 9.6 miliwn o bobl hŷn yn poeni am allu gwresogi eu cartrefi ac roedd dros 7 miliwn yn poeni am eitemau hanfodol eraill fel bwyd.

"Ar yr un pryd, mae dros £1.5 biliwn mewn budd-daliadau yn mynd heb eu hawlio gan bobl hŷn bob blwyddyn. Diolch i gyllid gan GDN y DU, gallwn helpu pobl hŷn i wirio eu hawliau, a allai arwain at incwm ychwanegol hanfodol a allai eu helpu i ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw."

Mae Age Cymru wedi datblygu tudalen costau byw ar ei gwefan sy'n llawn gwybodaeth i helpu pobl hŷn i ymdopi â'r heriau ariannol presennol: www.agecymru.org.uk/cost-of-living.   

Os hoffai unrhyw un ofyn am gefnogaeth gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yr Elusen am hyn neu unrhyw fater arall, ffoniwch 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk.

Diwedd

 

 

Last updated: Mai 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top