Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Mae pobl hŷn ledled Cymru’n aros yn hirach am asesiadau gofal cymdeithasol, yn ôl adroddiad Age Cymru

Published on 30 Gorffennaf 2023 06:24 yh

Mae angen gweithredu ar frys er mwyn wynebu’r dirywiad iechyd ymhlith pobl hŷn

Mae miloedd o bobl hŷn yng Nghymru sydd angen gofal cymdeithasol naill ai’n gorfod ceisio ymdopi cystal ag y gallant ar eu pennau eu hunain neu ddibynnu ar ofal di-dâl gan deulu a ffrindiau.  Yn ôl adroddiad newydd gan Age Cymru, mae nerfau nifer o’r gofalwyr di-dâl hyn ar chwâl.

Er bod y rhai sydd â'r anghenion mwyaf brys yn cael eu cefnogi, mae'r adroddiad yn nodi bod miloedd o bobl ar restrau aros hir yn cael trafferth ymdopi.  Mewn un achos roedd unigolyn wedi aros am 1,122 diwrnod cyn cael ei asesu gan awdurdod lleol. 

Yn ystod yr un cyfnod, nododd yr elusen bod cynnydd o 89% mewn ymholiadau am ofal cymdeithasol.  Roedd hyn yn gynnydd o 2,787 yn ystod y flwyddyn cyn y pandemig i 5,254 yn 2022/23.

Dyma oedd canfyddiadau llwm adroddiad Age Cymru ‘Pam ydyn ni’n aros o hyd?’ sydd yn seiliedig ar drafodaethau gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, a gyda gwasanaethau cyngor a chefnogaeth amrywiol yr elusen, yn ogystal â dadansoddiadau o’i arolwg blynyddol ‘Beth sy’n bwysig i chi’.

Dywedodd un person wrthym am yr heriau enfawr y gwnaethant wynebu wrth geisio cael gofal cymdeithasol:

"Rydw i wedi bod yn darparu llawer o ofal di-dâl i fy mam, er bod gen i fy nghyflyrau iechyd fy hun sydd wedi gwneud ymdopi'n anodd iawn. Rwyf wedi bod yn ei chael hi'n anodd cadw trefn ar wybodaeth yn ogystal â helpu fy mam gyda nifer o apwyntiadau iechyd. Pan gysylltais â'r gwasanaethau cymdeithasol o'r diwedd er mwyn cael cymorth ym mis Ebrill 2023, dysgais y bydd deuddeg mis o oedi cyn i mam gael asesiad gofal. Ers cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol, dydw i ddim wedi clywed wrthyn nhw o gwbl, er i mi esbonio pam mae angen yr help ar mam ar frys."

Mae’r adroddiad yn nodi ei fod yn hanfodol bod cymorth cynharach ar gael, ac mae’n galw am sylw brys ar gyfer unigolion sydd wedi bod yn aros dros fis am asesiad.

Dywedodd menyw arall wrthym “Rwyf wedi bod yn gofalu am fy ngŵr am 11 mlynedd heb seibiant. Mae'n waith blinedig yn gorfforol ac yn feddyliol.”

Canfu'r adroddiad bod safon cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a phobl hŷn sy’n aros am ofal ledled Cymru yn wael, gan ychwanegu bod hefyd angen gwella safon y wybodaeth mae pobl hŷn yn ei dderbyn.

Mae pryder y gallai'r darlun go iawn fod yn waeth oherwydd gwahaniaethau o ran casglu data, felly mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol i wella eu systemau cofnodi.

Mae'r adroddiad yn annog byrddau partneriaeth rhanbarthol, awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau trydydd sector, a grwpiau cymunedol i gydweithio er mwyn gwella argaeledd gwasanaethau ymyrraeth ac atal, gan ychwanegu bod angen ariannu'r trydydd sector yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Mae hefyd yn annog awdurdodau lleol i rannu arfer da a chyflymu'r ymdrechion i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl oherwydd bod llawer ohonynt yn cael trafferth ymdopi.  Ac mae'n galw ar awdurdodau lleol i asesu a yw eu gwybodaeth a'u cyngor sy’n cefnogi pobl hŷn yn hygyrch i'r miloedd o bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Er gwaethaf y pwysau enfawr, mae’r adroddiad yn nodi bod awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i leihau rhestrau aros drwy gyflwyno arferion gwaith arloesol.  Er enghraifft, mae sawl awdurdod yn annog datblygu microfentrau er mwyn darparu anghenion gofal ar lefel is. Mae eraill yn cyflwyno gweithgareddau cymunedol fel garddio a cherdded, ac yn darparu cefnogaeth yn agosach at ble mae pobl yn byw.

Ond mae'n dweud bod ymdrechion awdurdodau lleol wedi cael eu rhwystro gan yr argyfwng costau byw a phoblogaeth sydd yn llai iach yng Nghymru, gydag anghenion mwy cymhleth wedi’r pandemig.

Meddai Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, "Rydym wedi gwybod ers peth amser bod gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi bod yn ei chael hi'n anodd, ac mae llawer o bobl hŷn a'u gofalwyr heb dderbyn y gefnogaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt er mwyn medru byw bywyd urddasol. Fodd bynnag, yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos yw maint y broblem, sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn ym mhob rhan o Gymru.

"Mae hefyd yn dangos bod angen gweithredu ar frys er mwyn sicrhau nad yw pobl hŷn yn parhau i aros am gyfnodau hir tra bod eu hiechyd a'u lles yn dirywio.

"A pha bynnag fath o fodelau gofal rydyn ni'n eu datblygu mae'n hanfodol ein bod ni'n gosod pobl hŷn a'u hanghenion a'u dyheadau wrth wraidd gofal cymdeithasol a rhaid i ni gyd gydnabod staff gofal am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad."

I ddarllen yr adroddiad cyfan ewch i https://bit.ly/PYNAOH-AC#SocialCareneu ffoniwch 029 2043 1571 i gael copi papur. Os hoffech rannu eich profiadau o gael gofal cymdeithasol, ffoniwch Helen Twidle ar 029 2043 1571 neu e-bostiwch helen.twidle@agecymru.org.uk. <mailto:helen.twidle@agecymru.org.uk>

Diwedd.

Nodiadau i olygyddion

Dyma ail adroddiad blynyddol Age Cymru ar oedi o ran mynediad at ofal cymdeithasol yng Nghymru i bobl 55 oed ac hŷn. Y llynedd, roedd ein prosiect eiriolaeth dementia, prosiect eiriolaeth HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) a Chyngor Age Cymru oll yn adrodd am oedi pryderus wrth i ofal cymdeithasol asesu anghenion pobl hŷn, yn ogystal ag oedi wrth ddarparu pecynnau gofal unwaith y bydd asesiad wedi'i gwblhau.

Flwyddyn yn ddiweddarach roeddem eisiau gwybod a oes gwelliannau i fynediad pobl hŷn at ofal cymdeithasol wedi i awdurdodau weithredu’r newidiadau y gwnaethant sôn amdanynt y llynedd. 

 

 

Last updated: Gor 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top