Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Mae pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi oddi ar y grid yn cael eu hannog i wneud cais am gymorth o £400 erbyn 31 Mai

Published on 26 Mai 2023 09:42 yb

Mae’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni (Cronfa Amgen) yn cefnogi pobl sydd heb brif gyflenwad ynni

Mae gan bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi 'oddi ar y grid' lai na phythefnos i wneud cais am gymorth gwerth £400 tuag at eu biliau ynni.

Mae Age Cymru felly yn annog pobl hŷn sy'n byw 'oddi ar y grid', ac nad ydynt yn derbyn eu cyflenwad gwres gan gwmni ynni, i hawlio £400 o gefnogaeth gan Gynllun Cymorth Biliau Ynni (Cronfa Amgen) Llywodraeth y DU cyn gynted â phosibl, cyn y dyddiad cau ar 31 Mai.

Mae'r gefnogaeth wedi'i hanelu'n benodol at bobl sydd heb fesurydd ynni domestig neu gontract gyda chyflenwr ynni.

Fel arfer, gallai pobl sy'n gymwys i dderbyn y cymorth hwn fyw mewn eiddo heb gysylltiad â chyflenwad trydan neu nwy.  Er enghraifft, cartrefi anghysbell, cartrefi mewn parciau neu gartrefi symudol, carafanau, tai cychod, a safleoedd Sipsiwn a Theithwyr parhaol.

Mae'r gefnogaeth hefyd ar gael i bobl sy'n talu ffioedd gofal i fyw mewn cartref gofal neu lety â chymorth, yn ogystal â'r rhai sy'n byw mewn llety rhent cymdeithasol neu breifat sydd â chysylltiad ynni busnes neu gyflenwad trydan cymunedol.

I wneud cais, ewch i www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic neu ffoniwch 0808 175 3287.  

Cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n defnyddio glo neu olew ar gyfer eu gwres – dyddiad cau 31 Mai

Mae pobl sy'n gwresogi eu cartrefi yn bennaf gyda chynnyrch nwy, glo, pren neu olew potel yn gymwys i hawlio £200 ychwanegol o dan Gronfa Tanwydd Amgen Llywodraeth y DU (Cronfa Amgen), eto erbyn 31 Mai 2023.

I wneud cais, ewch i www.gov.uk/apply-alternative-fuel-bill-support-if-not-automatic neu ffoniwch 0808 175 3943.  

Mae Age Cymru wedi datblygu tudalen costau byw ar ei gwefan sy'n llawn gwybodaeth i helpu pobl hŷn i ymdopi â'r heriau ariannol presennol: www.agecymru.org.uk/cost-of-living.   

Os hoffai unrhyw un ofyn am gefnogaeth gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yr Elusen am hyn neu am unrhyw fater arall, ffoniwch 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm,  rhwng dydd Llun a dydd Gwener, neu e-bostiwch advice@agecymru.org.uk.

Diwedd

 

Last updated: Mai 26 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top