Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Mis Ionawr yn fis da i gynllunio tu hwnt i 60

Published on 07 Chwefror 2023 12:04 yh

Gweminarau am ddim yn canolbwyntio ar gyllid, lles, gwaith, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith



Mae mis Ionawr yn amser da i adolygu eich bywyd, yn enwedig gwaith a chyllid personol yn ogystal ag iechyd a lles. Mae’n gyfle i ddechrau cynllunio'r hyn rydych chi ei eisiau ar gyfer y dyfodol.

Dydy mwy na 50% ohonon ni ddim wedi meddwl llawer am ein gobeithion na'n huchelgeisiau wedi i ni droi’n 60 oed. Ond mae cael teimlad o reolaeth dros y cyfnod hwn yn medru arwain at well ansawdd bywyd.

Felly, mae Age Cymru a Busnes yn y Gymuned Cymru wedi dod ynghyd i ddarparu cyfres o weminarau am ddim i helpu pobl i ddechrau cynllunio ar gyfer cyfnod cadarnhaol yn hwyrach mewn bywyd.

Mae'r gweminarau'n rhoi trosolwg penodol o'r pedwar prif faes gwaith: cyllid, iechyd a lles, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i helpu pobl i deimlo'n fwy hyderus a gwybodus wrth gynllunio ar gyfer yn hwyrach mewn bywyd.

Mae'r gweminarau wedi'u hanelu at bobl dros 50 oed, p'un ai ydyn nhw mewn cyflogaeth neu wrthi'n chwilio am waith ac yn rhan o raglen Age at Work, a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Meddai Jill Salter, Rheolwr Rhaglen Age at Work, "Mae'r gweminarau'n cynnig cyfle i bobl dros 50 oed feddwl am eu hamgylchiadau presennol ac ystyried beth maen nhw eisiau gwneud yn ystod y cyfnod yn hwyrach mewn bywyd. Maen nhw'n helpu i roi'r hyder a'r wybodaeth i bobl i wneud cynlluniau a dewisiadau gwybodus ar gyfer dyfodol cadarnhaol. Er enghraifft, maen nhw wedi helpu pobl i ddod o hyd i botiau pensiwn 'coll', deall faint o incwm y gall fod ei angen arnynt er mwyn ymddeol, a'u hannog i gymryd camau priodol."

"Mae’r rhaglen Age at Work yn rhoi cyfle i bobl hŷn baratoi ar gyfer y dyfodol maen nhw ei eisiau yn hwyrach yn eu bywydau. Mae'r gweminarau wedi'u cynllunio i helpu pobl i feddwl am sawl mater allweddol sy'n ymwneud â'i gilydd megis cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, cyfrifoldebau gofalu, ac iechyd a lles. Gobeithio, unwaith y bydd pobl wedi mynychu'r gweminarau, byddant yn barod i greu dyfodol mwy diogel yn ariannol a bywyd sy'n gweddu'n well i'w hamgylchiadau personol."

Cynhelir y rhaglen nesaf o weminarau yn fisol o fis Ionawr ymlaen. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru ewch i www.agecymru.org.uk/ageatwork neu ffoniwch Jill Salter ar 07793 443893.

Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn

Mae Age Cymru yn cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb 'Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn' yn adeiladau'r Senedd ar 31 Ionawr 2023.

Bydd y digwyddiad yn archwilio sut mae cyflogwyr yng Nghymru yn creu gweithleoedd lle gall gweithwyr hŷn ffynnu, a'r manteision y gall gweithlu cymysg o ran oedran ei gynnig i sefydliadau. Bydd hefyd yn ymchwilio rhai o'r rhwystrau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth geisio chwilio am waith, ac wrth geisio parhau i weithio. Ymhlith y cyflwyniadau bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn a chyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ffoniwch Dr Ceri Cryer ar 029 2043 1555 neu e-bostiwch ceri.cryer@agecymru.org.uk

 

Last updated: Chw 07 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top