Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Dewch i wirfoddoli ar gyfer ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, Ffrind Mewn Angen, er mwyn arbed person hŷn rhag teimlo’n unig

Published on 30 Tachwedd 2023 07:59 yh

Gall un alwad 30 munud yr wythnos wneud gwahaniaeth enfawr i rywun sy'n byw ar ei ben ei hun

Mae Age Cymru yn annog unrhyw un sydd â 30 munud i sbario bob wythnos i ymuno â'i gwasanaeth Ffrind mewn Angen a gwneud galwad ffôn wythnosol i berson hŷn sy'n byw ar ei ben ei hun gan wneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau.

I lawer o bobl, eu galwad ffôn wythnosol yw'r unig gyfle bydd ganddynt i siarad am yr holl bethau sy'n bwysig iddyn nhw.  Efallai y byddant eisiau siarad am eu plentyndod, eu hoff wyliau, neu efallai eu bod am siarad am beth welson nhw ar y teledu’r noson gynt.

Unwaith y byddwch wedi penderfynu cofrestru, bydd yr elusen yn rhoi'r holl gymorth sydd ei angen arnoch gan gynnwys cyfnod sefydlu, canllaw diogelu, bydd cymorth ar gael i chi saith diwrnod yr wythnos, a chylchlythyr gwirfoddolwyr rheolaidd.  Pryd bynnag y bo modd, bydd yr elusen yn paru galwr a pherson hŷn sydd â diddordebau tebyg.

Dywedodd Fiona Douglass, cydlynydd Ffrind Mewn Angen, "Mae galwad ffôn wythnosol yn gwneud gwahaniaeth mawr i berson hŷn sy'n byw ar ei ben ei hun oherwydd mae’n rhoi cyfle iddynt rannu eu meddyliau a'u profiadau.

"Ond mae'r galwyr hefyd yn cael llawer iawn o foddhad o wneud y galwadau.  Mae'r alwad yn rhoi cyfle iddynt deimlo'n dda am eu hunain oherwydd eu bod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr, ac yn aml maen nhw'n cael dysgu rhywbeth newydd yn y broses.

"Mae pobl sy'n gaeth i'r tŷ yn arbennig yn cael llawer o foddhad o wneud y galwadau gan ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo bod ganddyn nhw rywbeth i'w gynnig o hyd.

"Yn anffodus, mae llawer mwy o bobl sydd angen galwadau na’r nifer sy’n gwneud y galwadau, felly rydym yn annog unrhyw un rhwng 16 a 100 oed i gysylltu os ydyn nhw'n teimlo bod hyn yn rhywbeth maen nhw am ei ystyried."

Astudiaeth Achos - Maureen Williams

"Dwi wrth fy modd yn gwirfoddoli gydag Age Cymru. Mae'r cyfle hwn wedi helpu i wella fy hyder dros y ffôn ac mae hefyd wedi rhoi'r cyfle anhygoel i mi ddod i nabod fy ffrind hyfryd, Pat, a dysgu am ei bywyd anhygoel.

"Rydych chi wedi bod yn hollol anhygoel o ran darparu cefnogaeth. Rydw i’n medru holi cwestiynau am y broses cyfeillio, ac rwy’n hapus i siarad â chi oherwydd bod gennych ymagwedd groesawgar, garedig a chyfeillgar tuag at bawb. 

"Roedd eich cefnogaeth yn help mawr i mi gyda’r rôl wirfoddoli. Wrth gwrs, mae hefyd yn helpu bod Pat wrth ei bodd yn sgwrsio fel fi!" 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Fiona Douglass ar 07944 995637, e-bostiwch Fiona.douglass@agecymru.org.uk , neu ewch i www.agecymru.org.uk/friend

 

Last updated: Tach 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top