Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu hannog i sicrhau bod ganddynt ddogfen adnabod â llun arno er mwyn iddyn nhw barhau i fedru pleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol.

Published on 30 Mawrth 2023 04:55 yh

Mae Age Cymru yn annog pobl hŷn ledled Cymru i sicrhau bod ganddynt ddogfen adnabod addas gyda llun arno er mwyn iddynt allu parhau i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio a chynnal eu llais cryf ar hyd pob lefel o lywodraeth yng Nghymru a'r DU.

O 4 Mai 2023 bydd yn ofynnol i bawb ddangos dogfen adnabod â llun wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn etholiadau ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu, ac unrhyw isetholiadau seneddol yn y DU.  Ac o 1 Hydref 2023 bydd y dyfarniad hefyd yn berthnasol i etholiadau cyffredinol y DU.

Mae'r rhestr o ddogfennau y gellir eu defnyddio fel cerdyn adnabod yn eithaf helaeth ac yn cynnwys eich pasbort, trwydded yrru, tocyn bws person hŷn, bathodyn glas, a'r Cerdyn Teithio Cymru 60+. Ond cofiwch fod angen cyflwyno'r ddogfen adnabod wreiddiol ac nid llungopi ohono.

Os nad oes gennych unrhyw ddogfen addas gyda llun arno, neu os nad ydych chi bellach yn edrych fel eich ffotograff, yna mae angen i chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.

Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr

Pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio gyda'ch awdurdod lleol, gofynnir i chi os oes gennych ddogfen adnabod gyda llun addas arno, neu a oes angen i chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr am ddim.

Gallwch wneud cais am y dystysgrif drwy ymweld â https://www.gov.uk/apply-for-photo-id-voter-authority-certificate.  Mae ffurflenni cais papur hefyd ar gael gan eich awdurdod lleol. Mae'r ddwy broses ymgeisio ar gael yn Gymraeg a Saesneg. 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru i bleidleisio a bydd angen iddynt hefyd ddarparu eu dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol a llun gyda'u cais. Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr fydd 5pm chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad. Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â'ch Swyddfa Gofrestru Etholiadol leol.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Age Cymru ar gael ar y dudalen we www.agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1555.

 

Last updated: Maw 30 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top