Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Unigrwydd a phobl hŷn: Os ydych chi neu rywun rydych chi’n nabod yn unig, cysylltwch ag Age Cymru

Published on 28 Mehefin 2023 03:39 yh

Mae Age Cymru’n annog pobl hŷn i chwilio am gefnogaeth os ydyn nhw, neu rywun maent yn ei nabod, yn teimlo’n unig

Mae’r elusen eisiau bod cymdeithas yn cymryd unigrwydd ac ynysigrwydd o ddifrif oherwydd maent yn gallu bod mor niweidiol i’n hiechyd â smygu 15 sigarét y dydd, ac yn gyffredinol mae’n fwy niweidiol na gordewdra.

Gellir ei gysylltu â chyflyrau fel iselder, problemau cysgu, blinder ac iechyd meddwl gwael.  Ond nid yw bob amser yn hawdd adnabod arwyddion fod person yn unig.  Felly, mae angen i ni fod yn sensitif i rai o'r cliwiau.  Gall unigolyn fod yn codi o’r gwely’n hwyrach yn y dydd, esgeuluso eu hymddangosiad neu hylendid personol, dydyn nhw ddim yn bwyta’n iach, ac maent yn cwyno eu bod yn teimlo’n ddiwerth.

Gall unigrwydd gael ei sbarduno gan sawl ffactor fel colli rhywun annwyl, symud i ffwrdd oddi wrth ffrindiau a theulu, colli'r cyswllt cymdeithasol a ddarperir gan waith, a phroblemau iechyd sy'n ei gwneud hi'n anodd mynd allan.  Er bod yr argyfwng costau byw hefyd wedi cwtogi gweithgareddau cymdeithasol llawer o bobl hŷn.

Meddai prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, "Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i leddfu unigrwydd. Mae gan Age Cymru nifer o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer pobl hŷn fel Cerdded Nordig a Tai Chi a fydd yn darparu ymarfer corff ar gyfer ystod eang o lefelau ffitrwydd a galluoedd. Rydym hefyd yn trefnu sesiynau cerdded a siarad lle rydym yn paru gwirfoddolwr gyda pherson hŷn a allai fod wedi colli ei hyder i gerdded ar ei ben ei hun.

"Rydym yn hyrwyddo gweithgareddau creadigol drwy ein prosiect Gwanwyn lle gallwch gwrdd â phobl o’r un anian mewn man diogel, neu efallai yr hoffech roi cynnig ar un o'n cyfleoedd gwirfoddoli niferus. Ac os ydych chi’n poeni am arian ac mae hynny'n eich atal rhag cymryd rhan yn eich cymuned, ystyriwch gysylltu â'n tîm Cyngor i sicrhau eich bod yn hawlio popeth i wneud y mwyaf o'ch incwm.

"Gall unigrwydd fod yn gyflwr enbyd a pheryglus os na chaiff ei daclo.  Felly, os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn unig, yna rwy'n eich annog i estyn allan at elusennau fel Age Cymru a hawlio'r gefnogaeth sydd ar gael."

Gallwch gysylltu â Chyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener, neu e-bostio advice@agecymru.org.uk. Gallwch hefyd ymweld â gwefan yr elusen: www.agecymru.org.uk/advice  

Mae rhagor o wybodaeth am ein prosiect Gwanwyn ar gael yma www.agecymru.org.uk/gwanwyn neu ffoniwch  029 2043 1576, ac am ein holl weithgareddau corfforol ewch i physicalactivity@agecymru.org.uk neu ffoniwch  0300 303 44 98.

Astudiaeth Achos: Sue Prosser

Sue Prosser (pellaf ar y chwith) Cerdded Nordig yn y bryniau uwchben Aberhonddu

Er fy mod i'n 70 oed eleni, mae fy iechyd i’n dda. Ymunais â'r grŵp cerdded Nordig ar ôl ymddeol gan fod gen i lawer o ffrindiau a oedd eisoes yn aelodau.

Rwy'n mwynhau agweddau cymdeithasol y grŵp yn arbennig gan fod pawb yn gyfeillgar iawn ac yn sgwrsio. Mae croeso i aelodau newydd bob amser, ac mae pawb yn dod yn ffrindiau da yn gyflym.

 

Last updated: Meh 28 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top