Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Y Nadolig hwn bydd yr anoddaf erioed oherwydd yr argyfwng costau byw, meddai bron i draean o bobl dros 65 oed yng Nghymru

Published on 23 Ionawr 2023 09:27 yh

Mae bron i un ymhob saith yn disgwyl teimlo’n drist, yn unig ac yn angof

Y Nadolig hwn bydd yr anoddaf erioed oherwydd yr argyfwng costau byw, meddai bron i draean o bobl dros 65 oed yng Nghymru.  Dyma oedd canfyddiad arolwg barn a gomisiynwyd gan Age Cymru a’i bartneriaid.

Dywedodd bron chwarter o atebwyr eu bod yn gofidio bydd yn rhaid iddynt gwtogi eu gweithgareddau cymdeithasol oherwydd yr argyfwng costau byw.  Roedd 13% ychwanegol yn gofidio na fyddant yn medru gweld eu teulu a’u ffrindiau mor aml.  Bydd hyn yn arbennig o anodd i bobl sydd wedi gweld eisiau cymdeithasu yn ystod y pandemig, a oedd yn edrych ymlaen at weld ffrindiau a theulu yn ystod yr Ŵyl.

Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut fyddwch chi’n teimlo’r Nadolig hwn’? dywedodd un ymhob saith atebwr eu bod yn disgwyl teimlo’n drist, yn unig neu’n angof.

Yn ôl yr atebion, prif achosion unigrwydd oedd: ‘Rydw i’n byw ar fy mhen fy hun’, ‘Does gen i ddim teulu gerllaw’, ‘Does neb yn fy ffonio nac yn ymweld â mi’, a ‘Mae fy nheulu yn brysur a dydw i ddim yn hoffi eu poeni’. 

Beth fyddai’n eich helpu dros y Nadolig?

Dywedodd hanner yr atebwyr byddai galwad ffôn wrth ffrind neu anwylyd yn helpu.  Dywedodd bron hanner byddai ymweliad wrth rywun yn eu helpu.

Nododd bron i hanner yr atebwyr fyddai digonedd o arian yn eu helpu.  Byddai digonedd o arian yn golygu ni fyddai’n rhaid iddynt ofidio.  Dywedodd bron draean fyddai gweithgaredd cymdeithasol megis ymweld â thafarn, sinema neu fynd allan i gael pryd o fwyd yn helpu.  Dywedodd un rhan o bump eu bod nhw eisiau cyngor cyllidol a chefnogaeth gan y Llywodraeth.

Dywedodd 40% o atebwyr eu bod nhw’n dibynnu ar y teledu a’r radio i gadw cwmni iddynt.  Roedd 17% yn ymweld ag archfarchnadoedd er mwyn osgoi teimlo’n unig.

Meddai Victoria Lloyd, prif weithredwr Age Cymru: “Mae’r gaeaf yn medru bod yn gyfnod anodd i ni gyd.  Eleni, mae’r argyfwng costau byw ar ôl effeithiau’r pandemig yn golygu bydd y gaeaf hwn yn arbennig o anodd.  Mae tlodi, unigedd ac unigrwydd byth a hefyd yn heriau i nifer o bobl hŷn yng Nghymru.  Gall yr heriau hyn fod yn frawychus yn ystod cyfnod y Nadolig.

“Er bod bywyd yn medru bod yn anodd mae cyngor, help a chefnogaeth ar gael.  Efallai eich bod chi, neu berson hŷn rydych chi’n ei nabod, yn cael trafferth i ymdopi yn ystod y gaeaf hwn.  Peidiwch â dioddef yn dawel; cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

“Bu cymunedau ledled Cymru yn darparu cefnogaeth i bobl hŷn yn ystod y pandemig.  Rydyn ni’n eich annog i wneud hyn unwaith eto.  Ffoniwch aelod hŷn o’r teulu, neu ewch i ymweld â nhw.  Ewch i ymweld â ffrind neu gymydog hŷn yn ystod yr Ŵyl i sgwrsio a rhannu tarten Nadolig.  Dewch i wirfoddoli gyda ni fel rhan o’n gwasanaeth gyfeillio dros y ffôn, Ffrind Mewn Angen.  Neu gallech chi wneud rhodd i Age Cymru er mwyn i ni fedru parhau i ddarparu cyngor ac arbenigedd i bobl hŷn.”

Helpwch ni i helpu pobl hŷn yng Nghymru 

Cafodd canlyniad yr arolwg ei gyhoeddi i gyd-fynd â lansiad Apêl Codi Arian yr elusen yn ystod y Nadolig, a oedd yn cefnogi Cyngor Age Cymru.  Dyma wasanaeth yr elusen wnaeth helpu pobl hŷn i hawlio mwy na £7.5 miliwn o bunnoedd mewn budd-daliadau a hawliau llynedd.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn cefnogi gwasanaeth Ffrind Mewn Angen yr elusen sy'n paru person unig hŷn gyda gwirfoddolwr ar gyfer galwad gyfeillgarwch wythnosol. Y llynedd, cafodd dros 9,100 o alwadau cyfeillgarwch eu gwneud yng Nghymru fel rhan o'r gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch ein cefnogi neu i gyfrannu ewch i agecymru.org.uk/brighter neu ffoniwch 029 2043 1555.

Diwedd.

Nodiadau i olygyddion

Cynhaliodd Yonder sampl ar-lein o 2,477 o oedolion yn y DU 65+ rhwng 6-30 Hydref 2022. Mae data wedi'i bwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU. Mae targedau ar gyfer cwotâu a phwysau yn cael eu cymryd o arolwg PAMCO, arolwg tebygolrwydd ar hap a gynhaliwyd yn flynyddol gyda 35,000 o oedolion. Mae Yonder yn un o sylfaenwyr Cyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Am wybodaeth ychwanegol gweler http://www.britishpollingcouncil.org/

Arolwg Nadolig – 65+ oed Cymru'n unig. Gwaith maes ar-lein a thros y ffôn: 6 – 30 Hydref 2022.  155 unigolyn.

Cyfrifwyd niferoedd amcangyfrifedig yr ymatebwyr yng Nghymru drwy ddefnyddio canrannau o’r boblogaeth gyfan sydd dros 65 oed yng Nghymru.  Yn ôl cyfrifiad 2021 y rhif yw 662,000

 

 

Last updated: Ion 23 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top