Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Y Nadolig hwn, byddwch yn gymydog da i bobl hŷn yn eich cymuned

Published on 26 Ionawr 2024 10:09 yb

Y Nadolig hwn, bydd miloedd o bobl hŷn yng Nghymru’n dweud eu bod yn unig

Mae miloedd o bobl hŷn yn dweud eu bod yn disgwyl teimlo’n unig yn ystod cyfnod y Nadolig eleni.  Felly, mae Age Cymru’n annog cymunedau i gymryd gofal o’r bobl hŷn yn eu plith.

Yn ôl gwaith ymchwil yr elusen, eleni mae tua 85,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru’n bwriadu bwyta eu cinio Nadolig ar eu pen eu hun.

Mae mwy na 112,000 o bobl hŷn, tua un ymhob chwech, yn dweud mai diwrnod Nadolig yw diwrnod anoddaf y flwyddyn.

Mae 18% o bobl yn dymuno cael cwmni dros gyfnod y Nadolig.

Ond mae unigrwydd yn effeithio ar bobl drwy’r flwyddyn, ac mae achosion unigrwydd yn medru bod yn gymhleth.  Efallai bod perthynas agos wedi marw, neu mae salwch yn cadw pobl yn gaeth i’r tŷ, neu mae teulu neu ffrindiau wedi symud i ffwrdd.

Mae’n bosib i ni gyd fod yn gymdogion da.   Mae arwyddion bach o gyfeillgarwch, codi llaw, gwenu, cerdyn Nadolig, yn medru gwneud gwahaniaeth mawr.

Gallwch chi wahodd cymydog hŷn i gael cwpaned o de neu mins-pei gyda chi.  Gallwch chi hyd yn oed rannu eich rhif ffôn er mwyn bod gan eich cymydog gefnogaeth mewn argyfwng.

Gall unrhyw un sydd â 30 munud i’w sbario bob wythnos ymuno â gwasanaeth Ffrind Mewn Angen yr elusen.  Mae gwirfoddolwyr yn cael eu paru gyda pherson hŷn sy’n byw ar eu pen eu hun er mwyn gwneud galwad ffôn wythnosol.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 0300 303 44 98 (cyfradd leol) o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm, neu ewch i www.agecymru.org.uk.

Gallwch chi hefyd gefnogi ein gwaith drwy wneud rhodd.  Ewch i www.agecymru.org.uk/christmas neu ffoniwch 0300 303 44 98.

 

Last updated: Ion 26 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top