Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Ymateb i South Wales Argus Parthed: Pobl hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn dioddef o hypothermia oherwydd costau gwresogi

Published on 23 Ionawr 2023 09:43 yh

Meddai Angharad Phillips, Cydlynydd Mentrau Iechyd Age Cymru: “Mae’n peri gofid fod pobl hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn dioddef o hypothermia oherwydd costau gwresogi.  Rydyn ni’n deall bod y cyfnod hwn yn anodd i nifer o bobl, ond rydyn ni’n annog pobl hŷn i flaenoriaethu eu hiechyd.  Gwnewch yn siŵr fod o leiaf un ystafell yn eich tŷ’n ddigon cynnes i chi eistedd ynddi’n gyffyrddus heb fynd yn sâl.

“Os ydych chi’n poeni am dalu eich biliau, chwiliwch am gyngor er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn eich budd-daliadau a’ch hawliau i gyd.  Er enghraifft, nas hawlir gwerth dros £200 miliwn o gredyd pensiwn yn flynyddol yng Nghymru.  Hefyd, mae yna fudd-daliadau gaeafol ar gael ar gyfer rhai pobl hŷn.  Er enghraifft y Taliad Tanwydd Gaeaf, Taliad Tywydd Oer, Y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, a Chynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru.  Cysylltwch ag elusennau fel Age Cymru, neu eich cyflenwr tanwydd.  Mae’n rhaid i’ch cyflenwr tanwydd gefnogi cwsmeriaid sydd yn agored i niwed.

“Rydyn ni’n cynghori pobl i geisio bwyta o leiaf un pryd cynnes bob dydd, a digon o ddiodydd poeth.  Yn ystod tywydd oer iawn gwisgwch ddigon o haenau tenau o ddillad cotwm, hyd yn oed pan ydych chi mewn tu fewn.  Ceisiwch symud yn gyson drwy fynd am dro neu wneud gwaith tŷ.

“Yn ystod y pandemig mi wnaeth cymunedau ledled Gwent ddod at ei gilydd i ddarparu cefnogaeth a chysur i’w cymdogion hŷn.  Rydyn ni’n gofyn i chi wneud hyn unwaith eto.  Os oes gennych chi ffrind, berthynas neu gymydog hŷn, galwch heibio i weld os allwch chi helpu.  Efallai bod angen help i glirio dail ac iâ i ffwrdd o’u llwybrau, neu cynigwch fynd allan i gasglu bwyd neu feddyginiaethau.”

diwedd

I gael gwybodaeth am faterion megis budd-daliadau a hawliau gallwch siarad ag un o gynghorwyr arbenigol Age Cymru.  Gallwch ddewis siarad Cymraeg neu Saesneg.  Ffoniwch 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (codwyd yr un tâl â galwad i rif sydd yn cychwyn gydag 01 neu 02).  Bydd galwadau’n cael eu cynnwys mewn unrhyw becyn galwadau llinell dir neu ffôn symudol.  Neu gallwch e-bostio advice@agecymru.org.uk <mailto:advice@agecymru.org.uk> neu ewch i www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth <http://www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth>

 

 

Last updated: Ion 23 2023

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top